Cytundeb rygbi llawn amser i Huw Davies

Yr wythwr o Fethesda i ddechrau gyda chlwb y Sale Sharks yn yr haf

Carwyn
gan Carwyn
BC67A275-30EE-4813-A466

Mae chwaraewr rygbi talentog o Ddyffryn Ogwen wedi cymryd cam pwysig yn ei yrfa wrth dderbyn cytundeb llawn amser.

Yn gapten ar dîm Academi Siarcod Sale, mae Huw Davies wedi serennu yng nghrys y clwb eleni.

Talu ar ei ganfed

Mae’n amlwg fod perfformiad y chwaraewr rheng-ôl wedi gwneud argraff ar hyfforddwyr y prif dîm. Bydd Huw yn cychwyn y cytundeb ym mis Gorffennaf.

“Dwi wedi gwirioni fy mod wedi cael cynnig cytundeb llawn amser efo Sale Sharks, mae’r holl deithio ac oriau o ymarfer wedi talu ar ei ganfed,” meddai Huw wrth Ogwen360.

“Hoffwn ddiolch i’r holl unigolion sydd wedi fy helpu ar hyd y daith o rygbi mini i Academi Sale Sharks.”