Cyhoeddi rhaglen Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen

Tymor 2022/23 yn cychwyn ar 10 Hydref

Carwyn
gan Carwyn

Bydd tymor newydd Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen yn cychwyn fis nesaf gyda sgwrs gan Gari Wyn ar ‘Penseiri Capeli Lerpwl’. Bydd y cyfarfod yn cael ei chynnal ar nos Lun, 10 Hydref, am 7 o’r gloch yn Festri Capel Jerusalem neu trwy gyfrwng Zoom.

Yn ôl yr arfer, cynhelir yr holl gyfarfodydd ar yr ail Nos Lun ymhob mis am 7.00 o’r gloch AG EITHRIO cyfarfod mis Rhagfyr. Bryd hynny cynhelir y Cyfarfod Blynyddol am 7.00 o’r gloch, a bydd y ddarlith yn cychwyn am 7.15 o’r gloch.

Rhaglen 2022/23

  • Nos Lun 10 Hydref, 2022 am 7.00: Gari Wyn  – Penseiri Capeli Lerpwl
  • Nos Lun 14 Tachwedd, 2022 am 7.00: Anna Pritchard – Hanes Teulu Coetmor
  • Nos Lun 12 Rhagfyr, 2022 am 7.00: Y CYFARFOD BLYNYDDOL; 7.15 Erwyn Jones – Rheoli Chwarel Lechi Gyfoes
  • Nos Lun 9 Ionawr, 2023 am 7.00: Dr Ffion Eluned Owen – Sul, Gŵyl a Gwaith
  • Nos Lun 13 Chwefror, 2023 am 7.00: Cadi Iolen – Gwaith Curadurol
  • Nos Lun 13 Mawrth, 2023 am 7.00: Gareth Llwyd – Arwr Anghofiedig a ‘Gladstone y Chwarelwyr’ – William Hugh Williams, Arafon [Darlith Goffa Rhiannon Rowlands]

Ym mhle?

Bydd y cyfarfodydd yn cael eu cynnal:

Wyneb yn wyneb: Yn Festri Capel Jerusalem, Bethesda. Cofrestrwch efo garethllwyd197@btinternet.com

Rhithiol tros Zoom: Cofrestrwch efo bethan@ogwen.org

Cofrestrwch erbyn 12 o’r gloch dydd Llun y ddarlith ar yr hwyraf

Costau

£10.00 i rai mewn gwaith

£5.00 i bensiynwyr a’r di-waith

Plant ysgol am ddim

Cost darlithoedd unigol = £2.00

Y ffioedd i’w talu i gyfrif ‘Cymdeithas Hanes Dyffryn Ogwen’ drwy:

BACS: 40-16-02 41386212 neu drwy siec.

Swyddogion y Gymdeithas yn ystod 2021/22:

Cadeirydd: Y Prif-fardd Ieuan Wyn

Trefnydd / Trysorydd: Dafydd Roberts, (01248) 600798, dafydd@caerwern.cymru

Ysgrifennydd: Gareth Llwyd, (01248) 601415, garethllwyd197@btinternet.com

Llywyddion Anrhydeddus: Dr John Elwyn Hughes a’r Dr John Llywelyn Williams