Cyfle i ddysgu mwy am gynlluniau’r “Hen Bost”

Partneriaeth Ogwen wedi prynu’r adeilad ac am rannu gwybodaeth am y dyluniadau cychwynnol

Carwyn
gan Carwyn
294620821_3143993169145776

Yn ddiweddar, mae Partneriaeth Ogwen wedi cadarnhau pryniant adeilad yr hen Spar ym Methesda. Y bwriad ydi ei ddatblygu fel canolfan aml-bwrpas fydd yn cyfrannu tuag at adfywio’r Stryd Fawr.

Wrth gyhoeddi sesiwn rhannu gwybodaeth ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r bartneriaeth yn dweud:

“Rydym bellach yn gweithio gyda chwmni pensaerniaeth PegwA ar y dyluniadau newydd ar gyfer prosiect yr Hen Bost a bydd sesiwn alw heibio yng Nghanolfan Gorffwysfan i rannu gwybodaeth am ein bwriadau.

“Bydd y sesiwn galw heibio yn rhedeg rhwng 4 ac 8 yr hwyr ar ddydd Mercher 27 Gorffennaf yng Ngorffwysfan, Stryd Fawr Bethesda yng nghwmni staff Partneriaeth Ogwen, y penseiri ac aelodau o Grwp Llywio Prosiect yr Hen Bost. CROESO CYNNES I BAWB.”

Cyfle gwych felly i ddysgu am gynlluniau cyffrous ar gyfer adeilad pwysig ar y Stryd Fawr. Ewch draw i ddysgu mwy am beth sydd ar y gweill.