Clwb criced angen help i gynnal y lawnt

Allech chi wirfoddoli yng Nghlwb Criced Bethesda?

Carwyn
gan Carwyn

Mae Clwb Criced Bethesda yn chwilio am wirfoddolwyr i helpu cynnal a chadw’r lawnt.

Gyda thimau oedolion – merched a dynion, ac ieuenctid llwyddiannus, byddech yn ymuno â chlwb llawn bwrlwm.

Does dim angen profiad blaenorol, dim ond awydd i wirfoddoli’n lleol a mwynhau’r awyr iach mewn lleoliad gwych.

Os oes gennych ddiddordeb, cysylltwch gyda’r clwb. Manylion yma.