Canmoliaeth gan Estyn i Ysgol Dyffryn Ogwen

Adroddiad cadarnhaol yn dilyn arolygiad diweddar

YDO

Cyhoeddwyd adroddiad gan Estyn, gwasanaeth arolygiaeth ysgolion Cymru, yn dilyn eu harolygiad yn Ysgol Dyffryn Ogwen ddechrau Chwefror. Canmolir cynnydd y disgyblion yn eu gwybodaeth, eu dealltwriaeth a’u medrau, gan nodi pa mor gryf yw eu cyfraniadau ar lafar a sut maen nhw’n gwrando’n astud ac yn barchus ar yr athrawon ac ar ei gilydd.

Nodir pa mor gadarn yw eu medrau wrth ddarllen amrywiaeth o destunau yn y ddwy iaith a’u bod yn llwyddo i ysgrifennu’n eglur a rhugl i sawl pwrpas. Mae canmoliaeth i’w gwaith yn eu gwersi Cymraeg, Saesneg a Mathemateg, yn ogystal â’u gwaith cymhwyso rhif mewn gwyddoniaeth a’u sgiliau digidol ar draws y pynciau.

Hynod o falch

“Rydym yn hynod falch o’r adroddiad a hefyd bod Estyn wedi cydnabod gwaith diflino cymaint o athrawon i sicrhau’r addysg orau bosibl ar eu rhiniog i bobl ifanc Dyffryn Ogwen, cymuned sydd yn agos iawn at fy nghalon,” meddai’r pennaeth, Dylan Davies.

“Braf yw gweld fod cydnabyddiaeth i safonau uchel sy’n cael eu cyrraedd gan y disgyblion er gwaethaf yr holl rwystrau dros y ddwy flynedd ddiwethaf, mae hyn yn tystio i ymdrechion a chefnogaeth arbennig gan yr holl staff. Fel a gydnabyddir gan Estyn, mae gennym brosesau cadarn yn eu lle i wirio ansawdd yn barhaus ac i adnabod meysydd a chynllunio datblygu pellach.

“Hoffwn ddiolch i’r llywodraethwyr, i GwE ac i adran addysg Gwynedd am eu cefnogaeth gan obeithio’n wir cawn barhau i ddatblygu ein rhaglenni gwaith wrth ffarwelio efo’r pandemig.”

Cyfeirir yn yr adroddiad at ffocws y pennaeth ar gefnogi lles disgyblion a staff dros gyfnod y pandemig a sut mae’r gwelliannau cryf yn ansawdd yr addysgu ac yn safonau a medrau’r disgyblion yn deillio o’r ymdeimlad cryf o dîm ac awydd pawb yn y tîm i wella.

Annog a herio

Yn ôl Estyn, mae arweinwyr yr ysgol yn llwyddo i ysgogi athrawon i greu amgylchedd ddysgu sy’n annog ac yn herio disgyblion i gyrraedd eu potensial ac mae’r athrawon yn cynllunio gwersi yn ofalus gan gyflwyno testunau gydag angerdd a brwdfrydedd. Gwelir disgwyliadau uchel o’r disgyblion yn ogystal â chefnogaeth effeithiol ar draws yr ystod gallu. O ganlyniad i ffocws ar flaenoriaethau strategol ar agweddau o lythrennedd mae disgyblion yn gwneud cynnydd da yn y meysydd yma, gan ddatblygu yn siaradwyr huawdl a hyderus.

Nodwyd fod gwefannau o safon uchel iawn wedi eu creu gan yr ysgol i gynorthwyo disgyblion efo’u medrau rhifedd a llythrennedd a bu canmoliaeth i sesiynau llythrennedd a rhifedd boreol i bawb a hefyd i ddarpariaeth cymorth effeithiol i rai sydd â medrau llythrennedd neu rifedd gwan.

Gwelliannau amlwg

Dywedodd Aelod Cabinet Addysg Cyngor Gwynedd, y Cynghorydd Cemlyn Williams, a Phennaeth yr Adran Addysg Cyngor Gwynedd, Garem Jackson: “Fel Cyngor, rydan ni’n falch iawn fod arolygwyr annibynnol Estyn wedi cadarnhau bod y gwaith da sydd wedi ei gyflawni yn Ysgol Dyffryn Ogwen wedi ei gydnabod yn yr adroddiad cadarnhaol yma.

“Dros y cyfnod diwethaf, mae tîm arwain, staff, llywodraethwyr a rhieni’r ysgol wedi gweithio yn galed iawn i gyflwyno gwelliannau amlwg sydd wedi codi safonau yn Ysgol Dyffryn Ogwen ac sy’n golygu bod yr ysgol bellach wedi cael ei thynnu allan o gategori dilyniant.”

“Ni fyddwn yn llaesu dwylo”

Croesawyd yr adroddiad gan Gadeirydd y Llywodraethwyr, y Cynghorydd Paul Rowlinson: “Croesawaf y ganmoliaeth gan Estyn heddiw i gynnydd sylweddol yr ysgol.

“Ers cychwyn ar eu gwaith fel tîm ym Medi 2019 mae arweinyddiaeth ddeinamig yr ysgol wedi sefydlu, gweithredu a gyrru cynlluniau i wella ansawdd yr addysgu yn ogystal â safonau a medrau’r disgyblion. Yn fuan wedi hynny daeth heriau’r pandemig, gan darfu yn arw ar addysg a phrofiadau’r disgyblion.

“Rwy’n falch o’r ffordd mae’r pennaeth a holl staff yr ysgol, gyda chefnogaeth y corff llywodraethu, wedi gofalu am les y disgyblion a’u teuluoedd yn y cyfnod anodd hwn ac ar yr un pryd wedi gweithio’n ddiflino i sicrhau gwelliannau cryf. Mae’r disgyblion a’u rhieni wedi gweld cynnydd sylweddol yn y meysydd bu’r ysgol yn eu blaenoriaethu ac mae’n braf bod arolygiad diweddaraf Estyn yn cadarnhau hyn.

“Ni fyddwn yn llaesu dwylo; rydym wedi sefydlu prosesau cadarn i sicrhau datblygiadau parhaus ac rydym yn benderfynol o gyfoethogi ymhellach brofiadau dysgwyr yr ardal yn yr ysgol i’r dyfodol.”