Mae Cadwyn Ogwen yn newid!

Cadwyn Ogwen nawr ar blatfform cenedlaethol Open Food Network

Bethan Roberts
gan Bethan Roberts

Dros y misoedd diwethaf, mae Partneriaeth Ogwen wedi bod yn gweithio efo cynhyrchwyr lleol i symud Cadwyn Ogwen i blatfform cenedlaethol yr Open Food Network. Mae’r siop ar-lein newydd bellach ar agor i’r cyhoedd ac ar gael ar www.cadwynogwen.cymru.

Mae Cadwyn Ogwen hefyd yn cydweithio efo Cosyn Cymru i ddatblygu siop cynnyrch lleol yn Llaethdy Gwyn ym Methesda.

Ond mae cyfle i weld y cynnyrch hefyd – fe fydd gan Cadwyn Ogwen a Siop Ogwen stondin llawn o gynnyrch lleol hyfryd yn Ffair Ysgol Llanllechid, sydd i’w gynnal nos Wener, yr ail o Ragfyr am 5.30yh.

Mi fydd Cadwyn Ogwen yn cynnig Hamperau Nadolig yn llawn cynnyrch arbennig eleni, gyda’r dewis hefyd i greu a phersonoli hamper eich hun – anrheg Nadolig perffaith! Mi fydd yr hamperau yma hefyd ar gael ar y wefan erbyn dydd Gwener, yr ail o Ragfyr.

I gyd-fynd efo’r datblygiadau newydd hyn, rydym wedi creu tudalennau Facebook ac Instagram newydd i farchnata a hyrwyddo’r cynllun a’r cynhyrchwyr gwych lleol. Mae gan Cadwyn Ogwen gystadleuaeth arbennig ar hyn o bryd ar y cyfryngau cymdeithasol, ewch draw i dudalennau Facebook ac Instagram i weld sut y gallwch chi ennill hamper cynnyrch lleol yn llawn bwyd blasus ar gyfer y Nadolig!

Facebook: https://www.facebook.com/profile.php?id=100086141688560

Instagram: https://www.instagram.com/cadwyn_ogwen/