Blwyddyn arall heb Sioe Dyffryn Ogwen

Trefnwyr yn cyhoeddi na fydd sioe eleni chwaith

Carwyn
gan Carwyn

Mae blynyddoedd bellach ers cynnal Sioe Amaethyddol Dyffryn Ogwen.

Yn fwyaf diweddar, bu rhaid peidio oherwydd y pandemig, a thywydd gwael wedi effeithio ar sawl blwyddyn, bydd rhaid aros tan o leiaf 2023 cyn gweld y sioe yn dychwelyd.

Gyda llawer o ddigwyddiadau yn ail-ddechrau, roedd disgwyl wedi bod y byddai’r sioe yn cael ei chynnal fis Mehefin.

Ond mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, mae’r trefnwyr wedi datgan y bydd rhai aros blwyddyn arall.

“Yn dilyn trafodaeth, ac o dan yr amgylchiad bresennol rydym fel pwyllgor wedi dod i’r penderfyniad ein bod am ganslo ein sioe eto eleni,” meddai’r datganiad.

“Nid yw wedi bod yn benderfyniad hawdd i’w neud ond yn teimlo ei fod yn benderfyniad cywir.

“Hoffwn ddiolch I bawb am eich cefnogaeth a gobeithio eich gweld yn 2023.”