Awydd ymuno â Chôr y Penrhyn?

Y côr am geisio dennu aelodau newydd

Carwyn
gan Carwyn

Yn un o gorau amlycaf Cymru, bydd Côr y Penrhyn yn ail-gychwyn ymarfer wedi toriad yr haf.

Gyda chyngherddau a pherfformiadau ar y gweill, mae’n addo bod yn gyfnod cyffrous.

Mewn neges ar eu cyfrif Facebook, mae’r côr wedi gwneud galwad am aelodau newydd i ymuno eu rhengoedd.

“Mae’r côr yn ail gychwyn ymarfer yn Clwb Rygbi Bethesda ar y 5ed o Fedi 2022, croeso cynnes i chi ddod i wrando wrth gwrs,” meddai’r neges.

“Mae’r côr yn awyddus i geisio denu aelodau newydd i’n plith, byddwn yn cynnal noson agored yng Nghlwb Criced Bethesda ar y 19eg o Fedi lle bydd croeso cynnes i chi wrando ac ymuno yn y canu pe dymunwch.

“Dewch draw i gael blas ar ganu côr meibion a chewch glywed am y gweithgareddau cyffrous sydd yn ein disgwyl yn ystod 2022/3 a thu hwnt.”