Urddo Ieuan Wyn yn Gymrawd Coleg Cymraeg

Y Prifardd o’r Dyffryn wedi ei urddo mewn cyfarfod rhithiol

Carwyn
gan Carwyn
Ieuan-Wyn

Ieuan Wyn

Llongyfarchiadau gwresog i Ieuan Wyn ar gael ei urddo yn Gymrawd i’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol mewn cyfarfod rhithiol o Gynulliad Blynyddol.

Yr Athro Mererid Hopwood, Athro’r Gymraeg ym Mhrifysgol Aberystwyth, oedd yn cyflwyno Ieuan.

“Mae Ieuan Wyn yn fardd a llenor nodedig, ac enillydd y gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Porthmadog yn 1987,” meddai.

“Dyfernir y gymrodoriaeth hon iddo am ei waith gwirfoddol fel ymgyrchydd a’i ymrwymiad ymarferol wedi hynny i hyrwyddo cenhadaeth y Coleg Cymraeg Cenedlaethol.”

Fel rhan o Gynulliad Blynyddol y Coleg, fe urddir unigolion yn Gymrodyr er Anrhydedd er mwyn cydnabod eu cyfraniadau allweddol i addysg uwch cyfrwng Cymraeg dros y blynyddoedd. Mae cyfanswm o 24 o unigolion wedi eu hurddo yn Gymrodyr gan gynnwys y diweddar Dr John Davies, Dr Meredydd Evans a’r Athro Gwyn Thomas.

Mae rhagor o’r hanes ar gael yn rhifyn mis Ebrill o Lais Ogwan.