Pwy yw Sian Gwenllian (PC) – Arolwg Ymgeiswyr

Ddaru ni fel criw ‘Fotio am Fory’ Bro360 ofyn i bob ymgeisydd yn Arfon amdanynt a’u polisïau…

Dafydd Herbert-Pritchard
gan Dafydd Herbert-Pritchard

Sian Gwenllian. Hi yw ein Haelod Seneddol ar hyn o’r bryd i Arfon. Chafodd ei haddysg yn Ysgol Friars, mae hi yn 64 mlwydd oed a chafodd ei hethol gyda mwyafrif o 4,162 pleidlais (54.8% o’r bleidlais). Mae Arfon yn cael ei hystyried fel sedd ddiogel ar gyfer Plaid Cymru ond dyma fwy o wybodaeth am Siân:

Cwestiynau personol a hwyl:

Mae Siân Gwenllian yn hoffi pêl-droed yn fwy na rygbi, ei hoff flas hufen ia yw fanila ac yn hoffi’r mynyddoedd yn fwy na lan y môr neu’r dref. Mae hi hefyd yn hoffi darllen llyfr caled yn hytrach na e-lyfrau, ei hoff fodd o drafnidiaeth yw cerdded allan o feicio a sbin yn y car a’i hysbrydoliaeth yw ei mam a’i phlant. Mae Siân hefyd yn byw yn Y Felinheli sydd yn Arfon.

Lle mae Siân yn sefyll ar broblemau mawr y byd?

Ynni Niwclear? Yn erbyn

Annibyniaeth i Gymru? 10/10 (Cytuno yn gryf iawn)

Pasbortau brechlyn? Yn erbyn

Y broblem hinsawdd? Crisis

Cyfnod clo? Wedi bod yn effeithiol

Ydi BLM wedi bod yn llwyddiannus yn lleihau hiliaeth yng Nghymru? Ydi

Rhannu brechlynnau gyda gwledydd llai ffodus? Ie, nawr

Rhyddid crefyddol? Cytuno

Erthyliadau? O blaid

Angen fwy o ffocws ar reilffyrdd yn hytrach na ffyrdd ac yn cefnogi ail agor rheilffyrdd rhwng Caerfyrddin ac Aberystwyth (tebyg iawn i ailagor rhwng Bangor a Porthmadog)

Cwestiynau mwy agored:

Tydi Siân Gwenllian ddim yn bwriadu codi trethi.

Ydy hi’n well cadw dosbarth chweched ysgol wledig ar agor, ta ydi hi’n well syniad sefydlu coleg mawr (Coleg Meirion Dwyfor) = Ansicr

Os bydd angen codi trethi i ariannu un prosiect, y prosiect fydd yn cael yr arian yw creu tai addas gwyrdd ar gyfer pobl leol

Er mwyn cryfhau y Gymraeg mae angen buddsoddiad mawr yn ein cymunedau Cymraeg gyda’r cynllun ARFOR Plaid Cymru

Rydym yn gallu manteisio ar dwristiaeth yn Arfon heb wanhau cymunedau i bobl leol drwy well rheolaeth a pherchnogaeth leol ar fusnesau

Yn olaf, er mwyn helpu iechyd meddwl pobl ifanc, mae Siân yn bwriadu gwario mwy ar wasanaethau a chreu hwb galw-heibio yn Arfon.