Profion Covid cyflym ar gael yn lleol

Mae profion llif unffordd ar gael i rai sydd heb symptomau’r haint

Carwyn
gan Carwyn
Prawf

Er bod cyfyngiadau Coronafeirws wedi llacio, mae’r ffigyrau diweddaraf yn dangos fod y feirws yn dal i fod yn fyw iawn yn ein cymunedau, gyda dros 200 o achosion wedi eu cadarnhau yng Ngwynedd dros yr wythnos diwethaf yn ôl ffigyrau Iechyd Cyhoeddus Cymru.

Ac er bod llawer iawn ohonom bellach wedi cael ein brechu, mae rhai yn heb gael y pigiad am amryfal resymau ac felly mae Covid yn parhau i allu bod yn fygythiad i rai.

Un ymhob tri

Fel rhan o’r ymdrechion i reoli trosglwyddiad yr haint, mae modd i unrhyw un sydd heb symtom i nôl profion cyflym i weld os oes gennych Coronafeirws. Gyda chymaint ag un ymhob tri o bobl sydd â Covid-19 ddim yn arddangos unrhyw symptomau, mae cymryd prawf llif unffordd yn gyfle am dawelwch meddwl i lawer un.

Yma yn Nyffryn Ogwen, mae modd i bobl sydd heb symptomau’r Coronafeirws i nôl y prawf yma o ddau leoliad yn lleol – o’r Llyfrgell neu o fferyllfa Boots ger Canolfan Feddysgol yr Hen Orsaf.

Mae’r profion llif unffordd ar gael i unrhyw un sydd:

  • yn wirfoddolwr
  • ddim yn gallu gweithio o gartref
  • yn ofalwr di-dâl
  • yn ymweld â Chymru
  • yn teithio i rannau eraill o’r DU
  • wedi cael cais gan eich bwrdd iechyd cyn ymweld ag ysbyty
  • yn defnyddio gwasanaethau mamolaeth (neu’n bartner i rywun sydd)
  • yn rhiant, gofalwr neu warcheidwad plentyn yn yr ysbyty
  • yn mynychu digwyddiad sy’n gofyn amdano.

Prawf

Cofiwch, os oes gennych symptomau, bydd angen i chi drefnu prawf trwy’r gwasanaethau iechyd. Mae manylion am hynny ar gael yma.