Noddwyr cerddorol i dîm pêl-droed Bethesda

Crysau newydd y tîm merched yn arddangos enw 9Bach

Carwyn
gan Carwyn

Mae tîm pêl-droed merched Bethesda Athletic wedi diolch i noddwyr newydd eu cit, sef y grŵp lleol 9Bach.

Fel bydd trigolion Dyffryn Ogwen ym gwybod, mae 9Bach wedi cael llwyddiant rhyngwladol dros y blynyddoedd. Ond mae Bethesda a’r ardal yn parhau yr un mor bwysig i’r aelodau.

Yn y llun, mae sylfaenwyr y grŵp sef Lisa Jên Brown a Martin Hoyland gyda’r tîm yn eu crysau newydd.

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y clwb:

“Dymuna Genod Bethesda ddiolch o galon i 9Bach am noddi’r ‘kit’ newydd.

“Rydan ni gyd yn gwerthfawrogi eich cefnogaeth”

Pob lwc i’r tîm y tymor yma!