Meleri Davies, Partneriaeth Ogwen – Y Flwyddyn Aeth Heibio

Trafod y flwyddyn heriol – fel rhiant ac yn ei gwaith o gartref

Carwyn
gan Carwyn

Y diweddaraf yn y gyfres “Y Flwyddyn Aeth Heibio” ydi Meleri o Lanllechid, sy’n rhannu ei phrofiadau.

Mae’n trafod yr heriau o weithio o rannu desg yn ystafell chwarae’r plant gyda’i gŵr, a’r straen o fagu, gofalu ac addysgu tri o blant tra hefyd yn cyflawni ei chyfrifoldebau yn ei gwaith gyda Phartneriaeth Ogwen.

Ond er yr heriau, mae’n falch o waith y fenter gymdeithasol mae hi’n rhan mor greiddiol ohoni. Mae’n tynnu sylw at sawl elfen i waith Partneriaeth Ogwen yn ystod y pandemig gan gynnwys Cadwyn Ogwen sy’n ddatblygiad gwych i hyrwyddo cynnyrch lleol.

Diolch Mel am rannu dy brofiadau – mae mwy o wybodaeth am waith Partneriaeth Ogwen ar gael yma.