Llysgenhadon ifanc yn dathlu eu treftadaeth 

Cynllun LleCHI yn cynnig cyfle i bobl ifanc ddysgu am hanes yr ardal

Carwyn
gan Carwyn

Rhai o’r llysgenhadon ifanc yn ystod ymweliad â Melin Lechi Ynysypandy, Cwmystradllyn cyn y cyfnod Covid-19

Mae llawer o sôn am gais i sicrhau statws safle treftadaeth y byd i dirwedd llechi’r ardal. Ond mae nifer o bobl ifanc o’r ardal hefyd ynghlwm â phrosiect cymunedol LleCHI sy’n cynnig cyfleoedd i ddysgu am a dathlu treftadaeth arbennig y cymunedau.

Mae Cyngor Gwynedd ar ran ystod o fudd-ddeiliaid yn datblygu enwebiad i geisio sicrhau statws safle treftadaeth y byd i dirwedd llechi gogledd orllewin Cymru sy’n cynnwys chwe ardal allweddol.

Ochr yn ochr â’r gwaith o ddatblygu’r enwebiad Unesco, mae cynllun ‘LleCHI’ yn canolbwyntio ar ymgysylltu cymunedol, grymuso lleol, gwella cyrchfannau, adfywio cymunedol a chodi balchder.

Mae’r gwaith sy’n cael ei arwain gan Gyngor Gwynedd, yn cael ei ariannu gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol Cynllun Lle Arbennig, Cronfa Partneriaeth Eryri ac Arloesi Gwynedd Wledig.

“Rydym wedi mynd ati godi ymwybyddiaeth yn rhai o’n hysgolion cynradd ar y cyd gyda’r Gwasanaeth Archifau i Ysgolion ac artistiaid i greu darnau o waith celf drawiadol sydd wedi eu harddangos yn lleol ac wedi eu rhannu ar ffurf fideo,” esbonia’r Cynghorydd Gareth Thomas, Aelod Cabinet Economi Cyngor Gwynedd.

Mae’r cynllun Llysgenhadon Ifanc Uwchradd hefyd yn rhan o brosiect LleCHI ac yn ymgais i ddod a phobl ifanc ardaloedd y llechi ynghyd, trwy gyfres o weithdai, ymweliadau a digwyddiadau yn eu hyfforddi a’u datblygu i ddod yn Llysgenhadon Ifanc i’r Cais Treftadaeth Byd.

Ers Mai 2019, mae criw o bobl ifanc wedi bod yn dod at ei gilydd yn dilyn proses recriwtio ar y cyd gydag Amgueddfa Lechi Cymru, ac wedi cael llu o brofiadau amrywiol.

Ychwanegodd y Cynghorydd Gareth Thomas: “O ysgrifennu blogs a dylunio logo i ymweld â’r ceudyllau dan do yn Llechwedd a theithio ar y wifren wib yn Zipworld Bethesda – mae’r prosiect llysgenhadon ifanc LleCHI wedi cynnig profiadau arbennig i’r bobl ifanc.

“Fe gawsant hefyd gyfarfod rhithiol gydag Asesydd ICOMOS i’r cais Safle Treftadaeth y Byd, cyfrannu mewn paneli trafod a mynychu amryw o ddarlithoedd a digwyddiadau.

“Er bod y cyfnod clo dros y flwyddyn ddiwethaf wedi golygu addasu profiadau’r bobl ifanc, rydym wedi llwyddo i gynnal sesiynau rheolaidd yn rhithiol.”

Mae’r llysgenhadon wedi cael cyfle i drafod gydag artistiaid lleol sy’n creu murluniau yn ein cymunedau llechi, ac yn fwy diweddar holi’r awdur Angharad Tomos am ei nofel Y Castell Siwgr. Mae hyn wedi arwain at weithdai difyr gyda Chastell Penrhyn i ddysgu am eu harddangosfa a hanes trefedigaethol ‘Beth yn y Byd’.

Mae adborth gan y bobl ifanc wedi bod yn bositif iawn, gyda Cian Rhys yn dweud: “Rydw i’n falch iawn o fod wedi cael y cyfle o gyfrannu i’r cais yma a byddwn wrth fy modd pe byddwn yn sicrhau’r dynodiad Safle Treftadaeth y Byd a fy mod wedi cyfrannu i sicrhau fod hanes y diwydiant yn cael ei gadw yn fyw yn y cof am flynyddoedd i ddod.”

Ceir gipolwg o brofiadau’r llysgenhadon ifanc ar eu tudalen YouTube.

Os ydych chi eisiau bod yn rhan o’r cynllun neu eisiau gwybod mwy cysylltwch drwy ebostio llechi@gwynedd.llyw.cymru