Heddlu yn parhau gyda’r chwilio am Frankie Morris

Y llu yn awyddus i glywed gan yrwyr ceir penodol allai fod â gwybodaeth am y diflaniad

Carwyn
gan Carwyn
8898
2n
2n-1

Yn dilyn rhyddhau dyn ar fechnïaeth yn gynharach yn yr wythnos, mae’r heddweision sy’n ymchwilio i ddiflaniad Frantisek “Frankie” Morris yn dweud eu bod yn apelio ar yrwyr y cerbydau yma i gysylltu gyda nhw yn syth.

Mae’r gŵr 18 oed o Landegfan, Ynys Môn wedi bod ar goll ers 2 Mai. Ers hynny cafwyd hyd i’w feic ger tafarn y ‘Vaynol’ ym Mhentir, ac mae swyddogion yr heddlu wedi bod yn amlwg iawn yn yr ardal yn ymchwilio i’r diflaniad.

Apêl i yrwyr

Dywedodd y Prif Arolygydd Owain Llewelyn: “Ar hyn o bryd rydym yn ymchwilio i unrhyw wybodaeth er mwyn olrhain symudiadau Frankie ar ddydd Sul, 2 Mai. Byddwn yn gofyn os oeddech yn gyrru unrhyw un o’r cerbydau hyn ym mhentref Pentir, eich bod yn cysylltu gyda ni ar frys.

“Yn olaf, hoffwn ddiolch i deulu Frankie am eu cefnogaeth yn ystod cyfnod sydd mor anodd a phryderus iddynt. Mae swyddogion arbenigol yn parhau i fod mewn cyswllt agos gyda nhw.”

Os oes gennych unrhyw wybodaeth am ddiflaniad Frankie, mae Heddlu Gogledd Cymru yn eich annog i gysylltwch â’r tîm ymchwilio yn uniongyrchol ar https://mipp.police.uk/operation/60NWP19A03-PO1