gan
Carwyn
Bydd pawb wedi bod yn dilyn achos trasig Sarah Everard dros y dyddiau diwethaf.
Yma yng Nghymru, mae marwolaeth Wenjing Lin hefyd wedi amlygu’r ffaith fod trais yn erbyn merched yn parhau yn fater y mae angen ei herio.
Mae aelodau o gymuned Dyffryn Ogwen a Bangor yn trefnu gwylnos ar-lein i Sarah a Wenjing Lin ond hefyd i bob merch sy’n teimlo’n anniogel, sy’n mynd ar goll o’n strydoedd, ac sy’n wynebu trais bob dydd.
Ar gyfer yr wylnos hon, mae cais i bawb roi cannwyll yn rhywle gweledol erbyn 8 o’r gloch nos Fercher, 17 Mawrth. Mewn ffenest, ar stepen drws ac/neu yn ddelfrydol o flaen camera sydd yn gallu ymuno gyda chyfarfod arlein yma.