Y 12fed o Fehefin ydi Diwrnod Gwenllian -dydd i gofio am ferch Llywelyn ap Gruffudd. Cipiwyd hi o’i chynefin a’i theulu o Garth Celyn (Abergwyngregyn) pan yn fabi a byw gweddill ei dyddiau mewn lleiandy yn Sempringham.
I gofio am ei phwysigrwydd yn ein hanes, mae cyfres o weithgareddau amrywiol yn cael eu cynnal yn yr ardal dros y dyddiau nesaf.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol cynhelir Gŵyl Gwenllian ym Methesda a’r cyffiniau.
Digwyddiadau
Yn sgil y llacio ar reolau cymdeithasol, bydd sawl gweithgaredd wyneb yn wyneb. Yn eu plith bydd gweithdy celf a llenyddiaeth i blant, cyflwyniad i hanes y dywysoges Gwenllian gan y Prifardd a’r hanesydd lleol, Ieuan Wyn, a thaith o gwmpas olion Garth Celyn – man geni Gwenllian – yng nghwmni’r archeolegwr Rhys Mwyn.
Ceir manylion llawn ar dudalen Facebook Gŵyl Gwenllian.
Gig gyntaf?
Hefyd, efallai am y tro cyntaf eleni yng Ngwynedd, cynhelir gig byw yn Neuadd Ogwen gyda Gwilym Bowen Rhys ac un o hogia’ ‘Pesda, Neil ‘Maffia’ gyda thocynnau ar werth trwy Neuadd Ogwen. Ond bydd angen bod yn sydyn gan mai nifer bychan o docynnau sydd ar gael!
Mae manylion am docynnau Gig Gwenllian yma.
Cynhelir yr Ŵyl gan Bartneriaeth Ogwen, Prosiect Tirwedd y Carneddau, Dyffryn Gwyrdd, Neuadd Ogwen, Menter Iaith Bangor a Hunaniaith (Menter Iaith Gwynedd).