Gwobr y Bobl Y Lle Celf i Rhiannon Gwyn

Llwyddiant yr artist o Sling yn yr Eisteddfod Amgen 

Carwyn
gan Carwyn
75481857_111330523663530-1

Mae’r artist lleol, Rhiannon Gwyn wedi ennill Gwobr y Bobl ‘Y Lle Celf’ yn Eisteddfod Amgen eleni. Mae’n sicrhau Gwobr Josef Herman.

Eisteddfod Amgen

Er nad oes Maes arferol eto eleni yn sgil y pandemig, mae yna lond gwlad o sgyrsiau, cystadlu ac arddangosfeydd digidol wedi eu trefnu eleni i aros pryd am Eisteddfod Tregaron yn 2022.

Fel rhan o’r arlwy eleni, bu’r trefnwyr yn gwahodd artistiaid i gyflwyno eu gwaith ar gyfer arddangosfa’r Lle Celf, gyda Gwenno Angharad, Aled Wyn Davies a Carwyn Evans yn dethol ac asesu’r ceisiadau ac yn dewis eu ffefrynnau er mwyn eu cynnwys yn yr oriel.

Llwyddwyd i greu arddangosfa o safon yn cynnwys cyfuniad o waith gan artistiaid newydd a sefydledig.

Mae gwaith Rhiannon Gwyn i’w weld ochr yn ochr â chelf gan yr artistiaid Manon Awst, Siân Barlow, Ann Catrin Evans, Gwen Evans, Kate Fiszman, Kate Haywood, Llio James, Karolina Jones, Rhys Bevan Jones, Roger Lougher, Karen McRobbie, John Gareth Miles ac André Stitt.

Gwobr y Bobl

Bydd rhai ohonoch yn cofio nad dyma’r wobr eisteddfodol gyntaf i Rhiannon ennill eleni, ar ôl iddi gipio teitl ‘Prif Artist’ Eisteddfod T yr Urdd ym mis Mai.

Fel ei llwyddiant yn gynharach eleni, mae’r gwaith sydd wedi sicrhau gwobr ddiweddaraf yn adlewyrchu dylanwad Dyffryn Ogwen a’r chwareli.

Wrth drafod y profiad o gael ei dewis i arddangos ei gwaith, dywedodd ei bod: “Mor falch bod y darn yma wedi cael ei ddewis i fod yn rhan o Arddangosfa Y Lle Celf yn yr Eisteddfod eleni.

“Tro cyntaf i fi ddangos gwaith yn yr Eisteddfod Genedlaethol (ac yn ddigidol) Mae’r llechen yma wedi ei siapio yn yr odyn i edrych fel ton yn torri …”

Llongyfarchiadau mawr i Rhiannon ar ei llwyddiant. Mae mwy o wybodaeth am ei gwaith ar gael yma.