Rhiannon Gwyn ydi Prif Artist Eisteddfod T

Yr artist o Sling yn cipio’r prif wobr yng nghystadleuaeth yr Urdd

Carwyn
gan Carwyn

Llongyfarchiadau mawr i Rhiannon Gwyn am ennill prif wobr celf yn Eisteddfod T yr Urdd 2021.

Fe wnaeth 25 gystadlu ac roedd y beirniad, Lisa Eurgain Taylor, “wedi dychryn” gyda safon uchel y gwaith.

“Dw i wrth fy modd efo gwaith Rhiannon a’r syniadau tu ôl i’w gwaith cerameg… Dw i wir yn gallu teimlo ei chariad hi tuag at Ogledd Cymru ac mae’n cyfleu Eryri yn berffaith drwy ei gwaith.”

Dylanwad chwarelyddol

Graddiodd Rhiannon gyda gradd dosbarth cyntaf Artist Dylunydd: Gwneuthurwr o Ysgol Gelf a Dylunio Caerdydd yn 2019, ac ar ôl preswyliad blwyddyn ar raglen ‘Inc Space’ i Raddedigion Prifysgol Fetropolitan Caerdydd, mae hi bellach wedi dychwelyd adref.

Yn ôl Rhiannon, mae cael ei magu yn ardal chwarelyddol Sling ger Bethesda wedi ac yn parhau i ddylanwadu’n gryf ar ei gwaith creadigol.

“Mae fy ngwaith yn archwilio ymdeimlad o le a’r syniad o fod â chysylltiad dwfn â’r dirwedd,” meddai.

“Rwy’n gweithio’n bennaf gyda llechi i greu naratif sy’n adlewyrchu fy ymdeimlad o hunaniaeth trwy archwilio’r cysylltiadau rhwng tirwedd fy nghartref yng Ngogledd Cymru a mi fy hun. Mae hyn yn cynnwys archwilio potensial llawn llechi drwy eu cynnwys gyda phrosesau cerameg i greu gwrthrychau sy’n portreadu ffurfiau o’r tir.”

Fel Prif Artist Eisteddfod T mae Rhiannon yn derbyn tlws arbennig wedi ei greu gan y cerflunydd Ann Catrin Evans.

Llongyfarchiadau Mae nifer o bobl ifanc y cylch yn cael hwyl ar y cystadlu eleni. Gallwch ddod o hyd i holl ganlyniadau Eisteddfod T yma – llongyfarchiadau i bob un ar eu llwyddiant!