Dylanwad ‘Un Nos Ola Leuad’

Rhaglen am nofel Caradog Prichard ar S4C

Carwyn
gan Carwyn

Mae rhaglen arbennig yn trafod dylanwad y nofel ddylanwadol gan yr awdur o Fethesda yn cael ei darlledu nos Sadwrn, 18 Rhagfyr.

Trigain mlynedd ers cyhoeddi’r clasur ‘Un Nos Ola Leuad’ bydd artistiaid a pherfformwyr amrywiol yn trafod dylanwad a gafael y nofel hyd heddiw.

Bydd y rhaglen Dylanwad ‘Un Nos Ola Leuad’ ar S4C ar ddydd Sadwrn, 18 Rhagfyr am 9.05pm.