Dyffryn Gwyrdd – materion amgylcheddol ar frig yr agenda

Yn ystod wythnos mae merch o’r ardal yn mynychu COP26, mae adeilad y Clwb Rygbi yn cystadlu i fod yn ‘Adeilad Carbon Sero y Flwyddyn’

Carwyn
gan Carwyn

Camp Clara

Mae Clara Newman o ardal Glasinfryn wedi ei dewis i fynychu uwchgynhadledd amgylcheddol COP26 sy’n cael ei gynnal yn Glasgow ar hyn o bryd.

Mae Clara, sy’n astudio Celf a Dylunio ym Mharc Menai, hefyd yn Llysgennad Hinsawdd dros Ieuenctid ar gyfer Cymru – grŵp o ddwsin o bobl ifanc o bob cwr o Gymru sydd yn Selogion dros yr Hinsawdd ac yn ymladd dros Gyfiawnder ym Maes Hinsawdd.

“Mae’n dda gen i gynrychioli ieuenctid Cymru yn COP26. Mae’n teimlo fel cyfrifoldeb mawr a gobeithiaf, fel llysgenhadon hinsawdd, y medrwn wneud gwahaniaeth bach i greu byd mwy cynaliadwy,” meddai Clara.

Mae Clara yn mynychu digwyddiadau yn y “Parth Gwyrdd” yr uwch-gynhadledd newid hinsawdd. Mae’n cael ei chefnogi gan staff o “Maint Cymru” lle mae’n creu cynnwys ar gyfer blogiau, podlediadau ac yn ffilmio ei phrofiadau. Bydd y llysgenhadon hinsawdd hefyd yn cynnal digwyddiad panel yn y Parth Gwyrdd ar Dachwedd 10fed.

Dywedodd Fflur Rees Jones, Pennaeth Cynorthwyol yng Ngholeg Menai: “Fel coleg, rydym yn falch iawn o gyflawniad Clara a dymunwn yn dda iddi yn y rôl allweddol hwn. Bydd Clara yn cynrychioli pobl ifanc Cymru a bydd yn chwarae rôl amhrisiadwy wrth annog ac uno’r cymunedau ehangach i wynebu’r her o newid hinsawdd.”

Adeilad Carbon Sero 

Yr wythnos yma hefyd, mae adeilad newydd Clwb Rygbi Bethesda yn cystadlu i gael ei chydnabod fel ‘Adeilad Carbon Sero y Flwyddyn’ yng ngwobrau amgylcheddol papur y National.

Bydd y gwobrau, sy’n cael eu cynnal gan y naturiaethwr Iolo Williams, ymlaen nos Iau. Pob lwc i’r Clwb – ac os am ddilyn y gwobrau, mae modd i chi wylio ar Facebook yma o 7pm nos Iau.