A ninnau yn dod allan o gyfnod caled Covid-19 dyma wahodd grwpiau cymunedol Dyffryn Ogwen i ymgeisio am grantiau i wella ansawdd bywyd trigolion, grwpiau a chymunedau’r Dyffryn.
Mae Elusen Ogwen wedi’i sefydlu i ddosbarthu elw o gynlluniau Ynni Ogwen. Mae’r elusen yn awyddus i gyfrannu at brosiectau cyfalaf a refeniw sydd â’r amcanion isod:
Lleihau tlodi tanwydd a chymdeithasol – gallai prosiect addysgu am effeithlonrwydd ynni, deall a dehongli biliau ynni, sbarduno insiwleiddio ac ymarferion arbed ynni
Datblygu prosiectau ynni adnewyddadwy – er enghraifft, gosod pwyntiau gwefru cerbydau trydan, gosod offer cynhyrchu trydan ar safleoedd cymunedol
Hybu trafnidiaeth gynaliadwy a theithio actif – prosiectau sy’n annog beicio neu gerdded i’r ysgol neu’r gwaith
Arbed ynni – gallai prosiect osod offer sy’n arbed ynni mewn adeiladau cymunedol, annog busnesau neu gymuned o drigolion i arbed ynni
Cysylltu unigolion o bob oed â’r amgylchedd – prosiectau cadwraeth neu wyddonol
Lleihau gwastraff – prosiectau sy’n annog ailddefnyddio neu ailgylchu neu gompostio
Annog unigolion i wirfoddoli mewn prosiectau amgylcheddol yn eu cymunedau – prosiectau cadwraeth neu wyddonol
Gwella ansawdd yr amgylchedd lleol – megis mabwysiadu a gwella llecynnau o dir, plannu mewn mannau cyhoeddus, hel sbwriel, plannu coed a llwyni
Cynyddu cynhyrchu / prynu cynnyrch bwyd lleol – er enghraifft, datblygu rhandiroedd neu berllannau cymunedol, annog ffyrdd newydd o werthu a dosbarthu cynnyrch lleol.
Y dyddiad cau cyntaf ar gyfer derbyn ceisiadau yw 30 Mehefin 2021. Mae pedwar dyddiad cau yn flynyddol gyda’r rhai canlynol ar 30 Medi 2021, 31 Rhagfyr 2021 a 31 Mawrth 2022.
Mae’r dogfennau ymgeisio ar wefan www.ogwen.cymru/cy/prosiectau-cymunedol/elusen-ogwen/ neu cysylltwch â’r elusen ar ebost: elusenogwen@gmail.com os hoffech chi sgwrs yn gyntaf. Peidiwch â bod ofn cysylltu, mae’r elusen yn awyddus i drafod eich syniadau ac i annog dyfeisgarwch.
Ewch ati i ymgeisio. Rydym i gyd eisiau cyfrannu at wella safon byw pobl Dyffryn Ogwen.