Cyfradd Covid yn uchel

Awdurdodau yn annog “gofal ychwanegol”

Ogwen

Mae neges sydd wedi ei chyhoeddi gan Gyngor Gwynedd ar y cyfryngau cymdeithasol heddiw (3/12/21) yn tynnu sylw at gyfraddau Covid-19 uchel yn Nyffryn Ogwen.

Mae’r ystadegau diweddaraf sydd ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru yn dangos fod 663.9 achos fesul 100,000 yn y saith diwrnod diwethaf i’w adrodd arnynt (22-28 Tachwedd).

Mae’r Cyngor yn annog pobl i fod yn ofalus: “Mae cyfradd achosion Covid-19 yn ardal Dyffryn Ogwen o’r sir yn uchel iawn ar hyn o bryd. Gofynnwn i chi gymryd gofal ychwanegol i gadw eich hun a’r bobl o’ch cwmpas mor ddiogel â phosib.”

Pwyll piau hi felly, a gwell dilyn y cyngor diweddaraf i

  • Fachu ar y cynnig am y frechlyn – nid yw hi byth yn rhy hwyr i gael y pigiad;
  • Mynychu apwyntiad brechlyn atgyfnerthu Covid-19 – pan fyddwch chi’n gymwys, fe’ch gwahoddir yn uniongyrchol gan Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr;
  • Byddwch yn wyliadwrus am unrhyw symptomau Covid – os byddwch chi’n datblygu symptomau, mae angen hunan-ynysu a threfnu prawf drwy ffonio 119 neu ar-lein, gallwch hefyd drefnu i brawf gael ei anfon i’ch cartref;
  • Dilynwch gyngor tîm Profi, Olrhain a Diogelu Gwynedd – os ydynt yn cysylltu gyda chi am eich bod chi’n gyswllt agos i achos Covid, trefnwch brawf i helpu i atal y lledaeniad;
  • Gwisgwch orchudd wyneb bob amser wrth ymweld â siopau neu unrhyw fannau cyhoeddus dan do;
  • Cyfyngwch gysylltiad â grwpiau mawr o bobl gymaint â phosib, ac os ydych chi’n dewis mynychu, ystyriwch gymryd brawf llif unffordd cyn ac ar ôl bod;
  • Os ydych chi’n cwrdd â phobl, cofiwch ei bod hi’n llawer mwy diogel gwneud hynny y tu allan.