Yn dilyn profi cerbyd trydan ym Methesda ychydig fisoedd yn ôl, mae Cyngor Gwynedd wedi cadarnhau y byddant yn cyflwyno cerbydau o’r fath i’w fflyd hel ailgylchu yn y misoedd nesaf.
Daw hyn wedi i’r Cyngor gael cadarnhad o arian grant Llywodraeth Cymru i brynu’r cerbyd casglu newydd.
Newid hinsawdd
“Fel Cyngor rydym wedi ymrwymo i fynd i’r afael â newid hinsawdd, a rhan o’r ymrwymiad yma yw cyflwyno mwy o gerbydau trydan i’n fflyd dros y blynyddoedd i ddod,” meddai’r Cynghorydd Catrin Wager, Aelod Cabinet Priffyrdd a Bwrdeistrefol Gwynedd:
“Rydw i’n falch ofnadwy y bydd y cyntaf o gerbydau trydan yn ymuno gyda fflyd casglu ailgylchu a gwastraff y Cyngor yn ystod y misoedd nesaf ac rwy’n obeithiol y bydd rhagor o gerbydau carbon isel yn dilyn.
“Yn gynharach eleni, fe gefais gyfle i weld cerbyd trydan o’r fath yn cael ei dreialu yma yng Ngwynedd ac mae’n amlwg fod potensial clir i wneud mwy o ddefnydd o’r cerbydau o’r fath dros y blynyddoedd nesaf.
“Bydd y cerbydau newydd yn cyfrannu at ein nod o leihau allyriadau carbon. Fel y gwelais o’r treial rhai misoedd yn ôl, bydd y cerbydau casglu modern yma yn fwy tawel wrth iddynt deithio trwy ein cymunedau ac fe allant deithio hyd at oddeutu 80 milltir rhwng gwefrau.”