“Mae hi’n bwysig cydnabod bod cymhwyso i’r her o addysgu ar-lein yn gostus”

Ymateb Beca Nia i £40m o gyllid ychwanegol gan Lywodraeth Cymru i gefnogi myfyrwyr

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae nifer o fyfyrwyr o Brifysgolion yng Nghymru wedi croesawu cynlluniau Llywodraeth Cymru i fuddsoddi  £40m o gyllid ychwanegol i gefnogi’r rhai sy’n wynebu trafferthion ariannol o ganlyniad i Covid-19.

Bydd yr arian hwn yn helpu i sicrhau mynediad tuag at adnoddau dysgu ar-lein ac i dalu costau’n ymwneud â chyfnodau o hunanynysu.

Un ohonynt yw Beca Nia, sy’n credu bod y cyhoeddiad yn darparu cydnabyddiaeth angenrheidiol o’r heriau sy’n eu hwynebu.

Ond er bod y pecyn cymorth yn daprau rhywfaint o dawelwch meddwl, mae’r pryder yn parhau ynglŷn ag effeithlonrwydd dysgu digidol.

“Wedi cael ein twyllo”

“Dwi’n teimlo ein bod ni wedi cael ein twyllo dipyn bach,” meddai Beca Nia sy’n wreiddiol o’r Dyffryn ond sydd bellach yn astudio ym Mhrifysgol Caerdydd.

“Jyst achos bod o mor ddrud a ma’ lot o’r myfyrwyr yn meddwl lle mae’r arian yma’n mynd?

“Ond oherwydd eu bod nhw wedi cyhoeddi hyn rŵan mae o’n dod a bach o dawelwch meddwl am ein bod ni’n cael ystyriaeth ac yn dipyn bach o flaenoriaeth…

“Odden ni’n teimlo ein bod ni wedi cael ein gadael ac wedi ein hanghofio.”

Yn ogystal â’r cyllid ychwanegol hwn, mae sawl Prifysgol yng Nghymru wedi cyhoeddi eu bod am gynnig ad-daliad i fyfyrwyr am lety nad ydyn nhw’n ei ddefnyddio oherwydd y cyngor i aros adref.

Mae Prifysgol Aberystwyth a Chaerdydd yn bwriadu cynnig ad-daliad llawn am bob wythnos nad yw myfyrwyr yn defnyddio eu llety, tra bod Prifysgol Bangor yn bwriadu cynnig ad-daliad o 10%.

Cymhwyso i addysgu ar-lein “yn gostus”

Wrth i fyfyrwyr barhau i ddilyn eu cyrsiau o bell, bydd yr arian ychwanegol o gymorth wrth fynd i’r afael â thlodi digidol, rhywbeth sy’n cael ei groesawu gan Beca Nia:

“Rydyn ni wedi wynebu amodau difrifol, lle dydw i ddim yn meddwl bod yr addysg cystal ac mae rhaid i ni ddibynnu ar y dechnoleg… felly rydyn ni wedi cael ein herio yn dechnolegol sydd yn faich arna ni.

“Mae hi’n bwysig cydnabod bod cymhwyso i’r her o addysgu ar-lein yn gostus,” meddai, “ac mae’r ffaith bod nhw’n rhoi fwy o arian i gefnogi myfyrwyr sydd angen cymorth ariannol yn cael ei werthfawrogi.

“Dim bai’r Brifysgol ydi hynny… maen nhw’n darparu’r addysg cystal fedrith nhw.”

“Byw a bod yn yr un lle”

Er ymdrechion y Brifysgol, sydd yn ôl Beca Nia wedi bod mewn cyswllt cyson a’u myfyrwyr, teimlai nad yw dysgu digidol yr un mor effeithiol ag addysgu wyneb-yn-wyneb.

“Mae o ychydig yn wahanol pan ti’n codi o dy wely, mynd i ista at dy ddesg, a mynd yn ôl i dy wely yn nos,” meddai.

“Dydi o jyst ddim ru’n peth a chodi’n gynnar a mynd ar y campws a mynd mewn i’r meddylfryd cywir a’r parodrwydd yna i ddysgu.

“Ti’n byw a bod yn yr un lle.”

Mae modd darllen mwy fan hyn.