Ardaloedd llechi Gwynedd yn Safle Treftadaeth y Byd

Mae UNESCO wedi cadarnhau eu penderfyniad

Osian Owen: Ar Goedd
gan Osian Owen: Ar Goedd

Gwnaed y cyhoeddiad heddiw bod UNESCO wedi dynodi ardaloedd llechi Gwynedd yn Safle Treftadaeth y Byd.

 

Bydd yr ardal yn ymuno â Safleoedd Treftadaeth y Byd eraill Cymru; sef Tirwedd Ddiwydiannol Blaenafon, Traphont Ddŵr Pontcysyllte ger Llangollen, a Cestyll y Brenin Edward yng Nghaernarfon, Biwmared, Harlech a Chonwy.