Ailgylchu heb ei gasglu mewn rhannau o’r ardal

Cyngor Gwynedd yn ymddiheuro fod rhannau o ardal Bethesda heb gael casgliad

8BE5F069-9B84-4508-A06E

Mae rhannau o ardal Bethesda heb gael casgliad ailgylchu a gwastraff bwyd heddiw (27/12/21).

Mewn neges ar y cyfryngau cymdeithasol, dywedodd y Cyngor na fu modd cwblhau casgliadau yn yr ardal. Doedd dim casgliadau bin olwyn gwyrdd i fod heddiw beth bynnag.

Aeth y neges ymlaen i egluro:

“Bydd ein timau yn gwneud pob ymdrech i ddychwelyd i’w casglu o ddydd Mercher ymlaen, a gofynnwn i drigolion i’w gadael allan mewn man cysgodol os yn bosib.

“Ymddiheurwn am unrhyw drafferth.”

Yn y cyfamser, mae modd trefnu slot amser i fynychu canolfannau ailgylchu Gwynedd a fydd ar agor o ddydd Mercher.