Mae yna hen edrych ymlaen gan blant o bob oed ar draws y dyffryn wrth i daith wib Siôn Corn a’i dîm o gorachod nesáu.
Criw Pwyllgor Carnifal Bethesda sydd wedi bod yn cydlynu’r daith efo’r corachod ac mae yna fwrlwm mawr ar y cyfryngau cymdeithasol yn lleol.
“Mae hi wedi bod yn flwyddyn mor anodd i bawb ac roedd y pwyllgor carnifal yn awyddus i drefnu rhywbeth i godi calon pawb,” meddai’r Cynghorydd Rheinallt Puw, Cadeirydd Pwyllgor y Carnifal.
“Rydan ni’n gobeithio y bydd hi’n noson dda ac yn rhoi rhywbeth bach i blant y fro ei fwynhau yn dilyn cyfnod mor anodd.
“Mae’n ffordd i ni gyd ddymuno Nadolig Llawen a dangos fod yr ysbryd cymunedol ’na dal i fod mor gryf ag erioed yma yn Nyffryn Ogwen.”
Oherwydd cyfyngiadau Covid-19 a’r angen i gadw Siôn Corn yn iach ar gyfer ei holl waith ar Noswyl Nadolig, ni fydd y sled yn stopio. Mae’r trefnwyr yn gofyn yn garedig i bawb gadw pellter cymdeithasol wrth godi llaw ac i beidio casglu mewn niferoedd. Bydd diweddariad yn fyw drwy gydol y daith ar dudalen Carnifal Bethesda ar Facebook.
Bydd y daith yn mynd o amgylch holl gymunedau’r fro ar nos Lun, 14 Rhagfyr gan ddilyn trefn: