Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Oes gennych chi straeon, lluniau neu wybodaeth am Gerlan?
Mae cymuned Gerlan yn dod at ei gilydd ar gyfer digwyddiad rhannu cof ddydd Gwener 25 Hydref o 4-7pm a bore Sadwrn 26 Hydref o 10 tan 12:30 yng Nghaban Gerlan.
Dewch draw am banad a sgwrs a dewch ag unrhyw luniau neu straeon sydd gennych am yr ardal gyda chi.
Bydd Lleisiau Lleol wrth law i sganio a chofnodi cyfraniadau i’w huwchlwytho i Gasgliad y Werin, lle byddant ar gael i’w gweld yn yr oriel ar-lein. Mae’r casgliad hyd yma i’w weld yma:
https://www.casgliadywerin.cymru/users/114406
Gobeithiwn eich gweld chi yno!