Mae Gwenno Gwilym wedi ymgartrefu yma yn Nyffryn Ogwen ers degawd bellach ac mae hi ar fin gyhoeddi ei nofel gyntaf.
Yn wreiddiol o Ddyffryn Conwy, mae ei nofel gyntaf, V + Fo, yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd.
Mae Gwenno wedi bod yn sgwrsio efo Ogwen360 am ysgrifennu a beth allwn ni ei ddisgwyl o’i nofel gyntaf.
Wyt ti’n mwynhau byw yn yr ardal?
Dwi wrth fy modd yn byw yma. Mae gan Ddyffryn Ogwen bob dim – mynyddoedd, afonydd, Lon Las Ogwen, gigs gwych yn Neuadd Ogwen a chymuned ffantastig. Bob tro dwi’n mynd am dro dwi’n meddwl pa mor lwcus ydw i o gael byw yma.
Mae gen ti nofel yn dod allan yn fuan, wyt ti wedi diddori mewn sgwennu erioed?
Mae gen i radd mewn Saesneg a dwi hefyd wedi gweithio o fewn y byd marchnata a chyfathrebu ers blynyddoedd, ond dim ond yn ddiweddar dw’i wedi bod yn ysgrifennu’n greadigol o ddifri.
Mi wnes i astudio gradd MA mewn Ysgrifennu Creadigol ym Mangor ar ôl i’r plant ddechrau’r ysgol yn llawn amser yn 2020 (er mi ddaeth y cyfnod clo felly roedd y plant adref beth bynnag!) ac o fanno ddaeth y syniad ar gyfer fy nofel V + Fo.
Pa fath o bethau a phynciau sy’n mynd a dy fryd di?
Dwi’n mwynhau darllen pob math o bethau, ond rydw i wir yn mwynhau llyfrau sy’n cynnwys lot o dafodiaith a slang. Roeddwn yn ffan fawr o Irvine Welsh pan oeddwn i’n iau (braidd rhy dywyll i mi rŵan!) a dwi hefyd wedi mwynhau llyfrau fel The Young Team gan Greame Armstrong a Who They Was gan Gabriel Krauze, gan eu bod wedi eu ‘sgwennu mewn ffordd mor unigryw.
Yn Gymraeg, dwi wrth fy modd hefo Tu Ôl i’r Awyr gan Megan Angharad Hunter, mae’r iaith mor fyw ar y dudalen. Dwi’n gallu clywed y cymeriadau mor glir yn fy mhen.
Am be mae’r nofel newydd?
Mae V + Fo am gwpl ifanc priod hefo dau o blant bach. Stori rhamant yn y bôn ond mae’r nofel wedi ei hysgrifennu mewn ffordd reit wahanol.
Mae yna lot o dafodiaith a lot o Wenglish a dwi’n meddwl fod o’n bortread realistig o sut mae llawer o bobl yn byw heddiw. Dwi’n trio dangos bywyd bob dydd teulu dwyieithog yn hytrach na’i drafod o yn uniongyrchol.
Does dim llawer o bobl yn byw bywyd hollol Gymraeg, a dwi’n gobeithio fod y nofel yn portreadu Cymru gyfoes.
Ti’n meddwl ei bod hi’n bwysig i gynnwys iaith bob dydd pobl?
Dwi’n bersonol wrth fy modd hefo tafodiaith a Wenglish, mae’n authentic a llawn egni. Yn aml, mae’n ddoniol hefyd. Dwi wrth fy modd yn dysgu geiriau newydd – heddiw mi wnes i ddysgu’r gair ‘morol’ – bendant am ddefnyddio hwnna mewn cerdd neu stori!
Be sgen ti nesa ar y gweill…
Dim byd mawr ar hyn o bryd, ‘chydig o farddoniaeth yma ac acw ac mae gen i egin syniad ar gyfer nofel arall. Mae V + Fo wedi bod mor all-consuming dros y blynyddoedd diwethaf, mae’n rhyfedd iawn rŵan fod y nofel wedi ei gorffen. Mae gen i ‘chydig o hiraeth am y cymeriadau!
Mae nofel gyntaf Gwenno Gwilym, V + Fo, yn cael ei chyhoeddi gan Wasg y Bwthyn ym mis Tachwedd eleni. Mi fydd yna lansiad yn Neuadd Ogwen ar Nos Iau, 28 Tachwedd – croeso cynnes i bawb.
Bydd Gwasg y Bwthyn a Gwenno yn rhannu’r manylion ar y cyfryngau cymdeithasol yn fuan iawn.
Instagram: @gwen.gwil.i.am / @llyfrau_bwthyn
Twitter (X): @gwen_gwil / @gwasgybwthyn1