Cam ymlaen i ddatrys problemau parcio’r Dyffryn?

Carwyn
gan Carwyn

Mae llawer o drafod wedi bod ers nifer o flynyddoedd am yr angen i daclo problemau parcio yn yr ardal. Yn benodol pryderon am geir yn parcio yn anghyfrifol ar ymyl ffordd yr A5 ger Llyn Ogwen.

Yn dilyn galwadau cyson gan drigolion a chynghorwyr lleol Dyffryn Ogwen i fynd i’r afael â’r mater, mae cwmni arbenigol wedi eu penodi i gynnal adolygiad i agweddau parcio a thrafnidiaeth yn ardal Ogwen a’r Wyddfa.

Yn dilyn proses dendro, mae cwmni ‘Martin Higgitt Associates’ wedi eu penodi gan Bartneriaeth Yr Wyddfa. Daw hyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus lle gosodwyd heriau parcio a thrafnidiaeth ar frig yr agenda fel materion i’w cyfarch.

Cyfarfod buan

“Rydan ni i gyd yn ymwybodol o’r broblem o bobl yn parcio ar ochr y ffordd ac yn ei gwneud hi’n anodd i geir basio ar yr A5 wrth ymyl Llyn Ogwen, felly dw i’n falch fod yna ymdrech rwan i edrych yn fanwl ar y sefyllfa ac ystyried sut mae datrys y broblem,” meddai Rheinallt Puw, sy’n cynrychioli Ogwen ar Gyngor Gwynedd.

“Gan fod hon yn gefnffordd, mae’r cyfrifoldeb yn fater i Lywodraeth Cymru felly mae rhaid cael ymrwymiad yno cyn fod posib symud ymlaen. Roeddwn i felly yn falch cael ymateb gan y Gweinidog Trafnidiaeth yn trefnu cyfarfod efo swyddogion o’r Llywodraeth fis nesaf. Mi fyddwn ni fel cynghorwyr lleol a chynrychiolwyr o Bartneriaeth Ogwen yn gwneud ein safbwynt yn glir ac yn galw am weithredu.

“Y gwir ydi fod yna gyfleoedd amlwg i ardal Bethesda wrth fynd i’r afael â’r problemau parcio. Byddai cyflwyno system parcio a theithio er enghraifft yn dod â mantais economaidd i stryd fawr Bethesda wrth i ymwelwyr wario yn lleol, yn hytrach na phasio drwy’r ardal. Mi fyddwn ni’n siwr o danlinellu hyn wrth gyfarfod gyda chynrychiolwyr o’r Llywodraeth mewn ychydig wythnosau.”

Dywedodd y Cynghorydd Dafydd Meurig, aelod lleol Arllechwedd ar Gyngor Gwynedd: “Mi wyddon ni, fel pobl leol bod hon yn hen broblem. Rydym yn falch o allu agor y drws i’n rhan godidog ni o Eryri, mae’n ddiwydiant llewyrchus, yn dod ag arian mawr i’r ardal, ac sy’n help i gynnal teuluoedd lleol.

“Ond mae’n dod ar gost, ac yn anffodus cost i bobl leol sy’n ceisio byw eu bywydau o ddydd i ddydd ar hyd y lon hon yw un ohonynt. Mae’n gost hefyd i’r ymwelwyr eu hunain, sy’n ceisio dod draw i fwynhau Eryri, ond sy’n wynebu problemau difrifol wrth wneud hynny.

“Rydym yn edrych ymlaen at gyfarfod gyda chynrychiolwyr o Lywodraeth Cymru fis nesaf er mwyn sicrhau datrysiad buan.”

Yn ôl y Cynghorydd Dafydd Owen, sy’n cynrychioli Tregarth a Mynydd Llandygai ar Gyngor Gwynedd: “Mae’r diwydiant twristaidd yn ehangu ond mae diffyg buddsoddiad llwyr gan Lywodraeth Cymru i ddelio efo’r broblem barcio.

“O’n trafodaethau gyda swyddogion Cyngor Gwynedd, Cyngor Conwy a Pharc Cenedlaethol Eryri sydd wedi bod yn ceisio delio efo’r broblem, mae’r datrysiad yn eithaf syml ar gost fechan. Gobeithio y bydd y datblygiadau diweddaraf yma yn golygu fod modd datrys y broblem yma o’r diwedd.”

Afolygiad parcio a thrafnidiaeth

Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol rhwng Martin Higgitt Associates a Phartneriaeth Yr Wyddfa y mis diwethaf ac yn y misoedd nesaf bydd y cwmni yn cyflawni’r camau isod cyn cyflwyno adroddiad terfynol cyn yr haf:

Cam 1 – Martin Higgitt Associates ddod i adnabod lleoliadau a phartneriaid, a’r weledigaeth strwythurol hirdymor. Mae hyn yn cynnwys: cyfarfodydd ag ymweliadau safle, adolygiad polisi, dadansoddiad data ac arolwg o waith llwyddiannus tebyg.

Cam 2 – Ymgysylltu gyda’r cyhoedd yn cynnwys holiadur ar y we, gweithdai ac ymgynghoriadau wyneb yn wyneb ag unigolion. Fe fydd y cam hwn yn gyfle i’r cyhoedd gael mynegi barn ar y mater ag i drafod syniadau.

Cam 3 – Fe fydd Martin Higgitt Associates yn cynnal gweithdy partneriaeth ac yn cyflwyno’r amcanion a ddatblygir o’r gwaith ymgysylltu cyhoeddus.

Cam 4 – Yn dilyn cyflwyno’r drafft adroddiad fe fydd Martin Higgitt yn cyflwyno ac yn trafod gyda’r Bartneriaeth cyn gwneud unrhyw gyweiriadau neu ychwanegiadau i’r adroddiad cyn cyflwyno drafft terfynol. Mae safbwyntiau a dyheadau’r cymunedau lleol a’r defnyddwyr yn greiddiol i ddatblygiad unrhyw gynigion ac fe fydd mwy o wybodaeth ynglŷn â’r ymgynghoriad a’r broses yn cael ei rannu yng nghylchlythyr Partneriaeth Yr Wyddfa.

Yn ôl Catrin Glyn, Swyddog Partneriaeth Yr Wyddfa: “Mae’n hynod gyffrous i weithio gyda chwmni rhyngwladol sydd a chymaint o arbenigedd yn y maes. Rydym wedi ein hargyhoeddi y bydd y cwmni yn cynnig atebion newydd gan lunio argymhellion arloesol a mwy cynaliadwy fydd nid yn unig yn gwella profiad trigolion lleol ac ymwelwyr, ond yn cyfrannu at warchod beth sy’n gwneud Yr Wyddfa mor eithriadol.”

Mae rhagor o fanylion am y gwaith sy’n digwydd rwan ar gael yma https://www.snowdonpartnership.co.uk/prosiectau