Fideos o’r fro a mwy! Wythnos lawn i lansiad Ogwen360

Amrywiaeth o weithgareddau’n cael eu cynnal yr wythnos hon gan drigolion Dyffryn Ogwen

Lowri Jones
gan Lowri Jones

Mae gwefan fro yn lle delfrydol i rannu straeon sy’n bwysig yn lleol. A’r wythnos hon bydd llu o bethau newydd yn ymddangos gennych chi – bobol Dyffryn Ogwen – ar eich gwefan ac ar gyfryngau cymdeithasol i nodi lansiad digidol y wefan.

Gwyliwch, darllenwch a rhannwch. Ond mae ’na gyfle i greu hefyd, gan mai eich gwefan chi yw hon!

Dyma’r cyfleoedd i gymryd rhan:

  • Her y teulu: Rydym am gasglu fideos o unrhyw beth a phopeth sydd wedi bod yn eich cadw chi fel teulu’n brysur yn ystod y cyfnod clo. Rhannwch eich fideo ar gyfryngau cymdeithasol gan ddefnyddio’r hashnod #EinBro!
  • Mae’n gyfnod pwysig i gefnogi ein busnesau bach. Beth am roi sylw ychwanegol i fusnesau bach y fro trwy dagio eich hoff gwmnïau ar Insta-stori a phasio’r her ymlaen i ffrindiau? Ewch i Insta Ogwen360 i weld mwy.
  • BingoOgwen! Cadwch lygad ar Insta Ogwen360 ddydd Iau i gymryd rhan!

Dyma amserlen dydd Gwener yn llawn. Bydd modd gweld y cyfan ar ffrwd Diweddaraf Ogwen360:

3pm – Hanes #EinBro gan Ieuan Wyn

4pm – Creu caws gyda Cosyn Cymru

5pm – Sesiwn gelf gan Karen Roberts

6pm – Coginio gyda Lois o Cypcêcs Lois

7pm – Gwyddoniaeth y fro gan Deri Tomos

8pm – Cerddoriaeth gan Dafydd Hedd, Crawia a’r Welsh Whisperer