Swydd Newydd efo Partneriaeth Ogwen

Mel Williams
gan Mel Williams

Mae Partneriaeth Ogwen yn chwilio am Swyddog Cefnogi Cyllid. Bydd y swyddog yn gweithio efo tim Partneriaeth Ogwen i gynorthwyo gyda gwasanaeth cyllid mewnol y Bartneriaeth ac i ddatblygu gwasanaeth i fusnesau a mentrau cymdeithasol lleol. Mae’r swydd yn cael ei ariannu gan gynllun Arfor Cyngor Gwynedd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch a partneriaeth@ogwen.org neu 01248 602131.