Sefydlu Clwb Darllen Dyffryn Ogwen

Ymunwch gyda’r clwb wrth i ni gychwyn ar ein hail lyfr! 

Cadi Roberts
gan Cadi Roberts

Ers pythefnos mae Clwb Darllen Dyffryn Ogwen wedi ei sefydlu gan un o Swyddogion Byw a Bod newydd Partneriaeth Ogwen, Cadi Roberts.

Y llyfr cyntaf darllenwyd gan y Clwb Darllen oedd Un yn Ormod – golygydd Angharad Griffiths. Hyd yn hyn nid yw’r clwb wedi cwrdd, ond mae sesiwn arwyddo llyfrau wedi ei chynnal fel rhan o Ffair Haf Cadwyn Ogwen, ac rydym wedi cynnal sgwrs zoom rhwng yr actor a’r therapydd Gwen Ellis a golygydd y llyfr Angharad Griffiths, bydd y sgwrs zoom yn cael ei rannu ar y grŵp gweplyfr ‘Clwb Darllen Dyffryn Ogwen’. Mae cyfarfod cyntaf y grŵp wedi ei drefnu dros zoom nos lun y 7fed o Fedi am 19:00, a dyma’r linc ar ei gyfer: https://us02web.zoom.us/j/89905027835?pwd=MWNyUHhocWR3YXRCUGdvdGpCVXJnZz09 

 

Os nad ydych wedi ymuno gyda’r grŵp yn barod, beth am ymuno gyda’r clwb ar gyfer y llyfr nesaf byddwn yn ei darllen? Yn dilyn poll ar dudalen y Clwb Darllen, ‘Iaith y Nefoedd’ oedd y llyfr a dderbyniwyd y nifer uchaf o bleidleisiau, felly dyna’r llyfr y byddwn yn ei darllen rhwng wan a’r 17eg o Fedi, a bydd gostyngiad o 10% ar lyfrau’r clwb darllen i aelodau pan yn archebu o Siop Ogwen!