Meddygfa’r Hen Orsaf – cyfyngu galwadau ffôn gyda meddyg

Trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno.

Carwyn
gan Carwyn

Mae trefniadau newydd yn cael eu cyflwyno ar gyfer galw cleifion yn ôl o ddydd Llun, 7 Medi ym Meddygfa’r Hen Orsaf.

Mewn neges ar dudalen Facebook, dywed y practis ym Methesda eu bod yn cyfyngu nifer alwadau oherwydd cynnydd sylweddol yn nifer y cleifion sy’n gofyn am ymgynghoriad dros y ffôn (galw’n ôl) gyda meddyg.

Bydd Meddygfa’r Hen Orsaf yn cyfyngu nifer y galwadau i 30 ar gyfer pob meddyg bob bore o 7 Medi ymlaen.

Dywed y practis ar eu tudalen Facebook: “Mae angen y trefniadau newydd hyn i sicrhau bod gan y meddygon ddigon o amser i ddelio â phob galwad, yn enwedig ar fore Llun sy’n eithriadol o brysur gyda thros 100 o gleifion yn cysylltu â’r practis ar hyn o bryd i ofyn am alwad yn ôl.”

O ddydd Llun, 7 Medi, unwaith y bydd yr holl slotiau galwadau ffôn yn llawn bob bore, gofynnir i gleifion alw’n ôl y bore canlynol neu gael eu rhoi ar restr galwadau brys y prynhawn os bydd angen.

Ychwanegodd y neges gan y feddygfa: “Cofiwch y gallwch ofyn am gyngor meddygol gan ein meddygon heb orfod ffonio’r practis, drwy ddefnyddio’r gwasanaeth eConsult – http://yrhenorsaf.webgp.com/

“Diolch am eich cefnogaeth a’ch dealltwriaeth barhaus.”

Gyda dydd Llun, 31 Awst yn Ŵyl Banc, mae Meddygfa’r Hen Orsaf hefyd yn atgoffa cleifion y byddant ar gau am y diwrnod. Bydd y feddygfa yn ail-agor o ddydd Mawrth, 1 Medi.