Llifogydd – gostyngiad Treth Cyngor posib

Mae’n bosib eich bod yn gymwys am ostyngiad os ydych chi wedi gorfod symud o’ch eiddo oherwydd difrod llifogydd Storm Francis.

Carwyn
gan Carwyn

Fe wnaeth y llifogydd yr wythnos diwethaf effeithio ar nifer yn ardal Dyffryn Ogwen.

Bu’n rhaid i rai pobl gael eu cludo i ganolfan orffwys dros nos ym Mhlas Ffrancon oherwydd y pryder am effaith Storm Francis ar gartrefi ac eiddo pobl. 

Os ydych chi wedi cael eich effeithio, mae’n bosib y gallech chi fod yn gymwys am ostyngiad yn eich Treth Cyngor.

Mae modd gostwng Treth Cyngor lle mae llifogydd wedi achosi dinistr i gartref a bod y trethdalwr neu breswylydd wedi gorfod gadael i fyw mewn eiddo arall dros dro tra bod yr eiddo’n cael ei atgyweirio.

Os ydych chi’n meddwl eich bod chi’n deilwng am ostyngiad Treth Cyngor oherwydd y llifogydd, cysylltwch gydag Uned Treth Cyngor yng Nghyngor Gwynedd yn syth. Gallwch gysylltu gyda’r tîm ar 01286 682700 neu trethcyngor@gwynedd.llyw.cymru – bydd pob cais yn cael ei ystyried yn unigol.