Gwaith wedi dechrau ar gae chwaraeon ym Methesda

Y cynghorydd, Rheinallt Puw, yn falch o’r gwaith ym Mhlas Ffrancon.

Guto Jones
gan Guto Jones

Wedi ymgyrch leol, mae’r Cynghorydd, Rheinallt Puw, yn ymfalchïo yn y ffaith bod gwaith buddsoddi yn digwydd ar gae amlbwrpas chwaraeon ym Methesda ar gyfer pobl leol.

Mae’r gwaith o glirio’r safle ar gyfer gosod y deunydd chwaraeon wedi dechrau ym Mhlas Ffrancon wythnos diwethaf. Y gobaith yw, fydd y cae yn barod i’r gymuned ei ddefnyddio erbyn mis Mawrth.

“Dwi’n hynod o falch bod y gwaith o fuddsoddi yn y cae chwaraeon ym Mhlas Ffrancon wedi dechrau,” eglurai Rheinallt Puw.

”Dyma oedd un o fy ymgyrchoedd cyntaf pan ges fy ethol yn gynghorydd bron i dair blynedd yn ôl, ac er gwaetha’r wasgfa ariannol rydyn ni wedi ei wynebu, rydym wedi llwyddo i sicrhau’r buddsoddiad ariannol.
“Mae’r cae wedi methu cael eu defnyddio ers nifer o flynyddoedd, oherwydd bod safon yr arwyneb ddim yn ddiogel i bobl ei ddefnyddio.

“Mae pobl leol wedi bod yn teithio i leoliadau fel Bangor, er mwyn defnyddio cyfleusterau caeau chwaraeon ar gyfer cynnal gemau pêl droed a hoci. Bydd uwchraddio’r cae ym Mhlas Ffrancon yn golygu y bydd clybiau chwaraeon ar gyfer plant, pobl ifanc ac oedolion yr ardal yn gallu llogi’r cae at eu defnydd eu hunain, yma ar eu stepen drws.
“Rydym yn edrych ymlaen yn arw at weld y cae chwaraeon yn agor i’r cyhoedd ddechrau mis Mawrth.”

Bydd y cae ar gael ar gyfer defnydd disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen yn ystod y dydd ac yna i’r gymuned ehangach a chlybiau chwaraeon ei logi gyda’r nos ac ar benwythnosau. Bydd yn addas ar gyfer gemau a hyfforddiant pêl droed a hoci a bydd modd i chwaraeon eraill, megis rygbi, ei ddefnyddio ar gyfer sesiynau ffitrwydd a sgiliau.

Er mwyn llogi’r cae chwarae cysylltwch â derbynfa Byw’n Iach, Plas Ffrancon neu alw rhif ffôn 01248 601515.