Mae effaith Storm Francis dal ar Ddyffryn Ogwen gyda ffyrdd yn parhau ar gau.
Cafodd rhai pobl eu cludo o eiddo neithiwr oherwydd llifogydd gan aros am rai oriau yng Nghanolfan Hamdden Plas Ffrancon.
Er bod y dŵr wedi cilio, mae’r A5 rhwng Bethesda a Llyn Ogwen wedi bod ynghau ers neithiwr oherwydd tirlithriad. Mae’r gwaith o glirio’r ffordd wedi bod yn bwrw ymlaen trwy’r dydd.
Mae Pont Tŵr (isod) hefyd ar gau oherwydd pryder am y strwythur. Bydd gwaith adolygu’r bont yn cael ei gynnal cyn penderfyniad am ail-agor.
Fe wnaeth Aelod Senedd Arfon ymweld â’r ardal. Gydag o roedd y Cynghorydd Rheinallt Puw sy’n cynrychioli ward Ogwen ar Gyngor Gwynedd (isod). Mae Rheinallt wedi bod yn helpu preswylwyr gyda’r glanhau ar ôl i Afon Ogwen orlifo a dod i mewn i eiddo cyfagos.
Dywedodd Hywel Williams AS: “Roedd yn dorcalonnus gweld gyda’m llygaid fy hun y cartrefi a’r busnesau a ddifethwyd gan y llifogydd a ddaeth mor gyflym fel nad oedd llawer o gyfle i baratoi na symud o’i ffordd.
“Hoffwn dalu teyrnged i ymateb y gymuned a gwaith y gwasanaethau brys a staff y Cyngor a oedd allan yn oriau mân y bore yn achub preswylwyr.
“Dyma’r peth olaf sydd ei angen ar drigolion. Mae’n hanfodol bod pobl a busnesau lleol yr effeithir arnynt yn cael yr help sydd ei angen arnynt i godi’n ôl ar eu traed. Mae ein swyddfa yn barod i ddarparu cefnogaeth a chyngor pe bai pobl ei angen.”
Ychwanegodd Aelod o’r Senedd dros Arfon, Siân Gwenllian, ei bod mewn cysylltiad agos â Chynghorwyr lleol a chymunedau y mae’r llifogydd wedi effeithio arnynt.
“Roeddwn yn ddigalon o glywed adroddiadau am lifogydd a effeithiodd ar rannau o Fethesda ac Abergwyngregyn dros nos. Fel pe na bai pethau’n ddigon drwg i deuluoedd a busnesau lleol, bydd y llifogydd yn ychwanegu at yr ansicrwydd,” meddai.
“Rwy’n gwybod bod effaith llifogydd yn ddinistriol, ac i’r rhai sy’n byw gyda’r ofn cyson hwn mae’n anodd dirnad yr effaith y mae hyn yn ei gael ar eu bywydau. Maent yn cael eu gorfodi o’u cartrefi, maent yn colli eu heiddo, ac mae pethau o werth sentimental yn cael eu taflu i sgip.
“Ond mae’n ei gwneud hi’n bwysicach fyth bod cymuned mor wydn yma yn Arfon yn barod i ddarparu help llaw pan fo angen.”