Nid cyfrifoldeb perchnogion tafarndai yw atal ymwelwyr o Loegr

“Mae o fyny i’r heddlu i fod yn gwneud eu gwaith a stopio pobol rhag dod drosodd,” meddai Dewi Siôn

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Wrth i Loegr wynebu mis o gyfnod clo cenedlaethol, rhybuddiodd y Prif Weinidog, Mark Drakeford bod y sefyllfa yn “creu cyd-destun newydd i ni yng Nghymru.”

Er bod eisoes rhaid i dafarndai, caffis a bwytai yng Nghymru gau am 10yh, awgrymodd Mr Drakeford y byddai efallai’n rhaid iddynt gau hyd yn oed yn gynt, er mwyn atal ymwelwyr dros y ffin o Loegr.

Aeth Ogwen360 i gael sgwrs gyda Dewi Siôn, perchennog y Llangollen ac y Siôr ym Methesda i drafod ei ymateb.

“Dydw i ddim yn gweld o’n deg o’ gwbl”

“Dydw i ddim yn gweld o’n deg o gwbl,” meddai, “mae o ddigon drwg bod ni wedi gorfod cau am ddeg o’r gloch. Dydi hynny ddim wedi gwneud dim gwahaniaeth o gwbl – mae o jyst yn meddwl fod pobl wedi bod yn dod allan yn gynt.”

Dywedodd y buasai gorfodi tafarndai i gau yn gynt yn benderfyniad ar sail y drefn yn Lloegr yn “hollol stupid.”

Eglurodd nad ei gyfrifoldeb ef fel perchnogion busnes yw plismona’r sefyllfa.

“Dwi jyst ddim yn deall pam bod nhw’n ystyried y peth – does ‘na ddim pwynt. Mae o i fyny i’r heddlu i fod yn gwneud eu gwaith a stopio pobol rhag dod drosodd.”

“Fysa ‘na ddim pwynt agor os am gau yn gynt – mae o mor syml a huna,” meddai.

Mae modd darllen mwy o ymatebion yma.