“Mwy na Clwb Darllen” 

Clwb Darllen Dyffryn Ogwen yn trafod Gavi gan Sonia Edwards

Catrin Wager
gan Catrin Wager

Y dyddiau yma, mae gofyn i ni greu cysylltiadau mewn ffordd amgen.

Rhyw fis yn ôl, ar brynhawn Iau roedd Liws, gyrrwr arbennig Cadwyn Ogwen yn gwibio’r dyffryn gyda phecynnau bychan o siop Ogwen ymhlith y danteithion.

Roedd y pecynnau yma i’r rhai oedd wedi mentro archebu Llyfr y Mis gan Siop Ogwen, heb wybod be fydda’r llyfr. O fewn y pecynnau roedd Gavi gan Sonia Edwards ymhlith un neu ddau o anrhegion bach eraill. Nod y pecynnau oedd dod a gwen; i annog amser ymlacio gyda nofel dda, ac i yrru neges o obaith ag undod i’r rhai a’i derbyniodd.

Nos Lun daeth rhyw 10 ynghyd yn rhithiol i drafod y nofel. Braf oedd cwrdd a dadansoddi’n gwahanol berspectifs. O’i symlder i’w chymhlethdod; o’i arwynebedd i’w dyfnder, roedd rhannu barn a sylwadau o’n gwahanol ddehongliadau yn bleser, ac yn brofiad dysgu a ddaeth dealltwriaeth newydd o’r llyfr (i mi beth bynnag).

Braf hefyd oedd trafod ein cymhelliant i ddarllen, a’r ffordd mae’r clwb wedi ein hannog i neilltuo amser i eistedd lawr hefo llyfr, ac ail-gydio mewn hen bleser yn hytrach na syllu ar sgrin.

Nawr mae cyfle eto i archebu anrheg fach bersonol, gyda llyfr y mis yn fyw i’w brynu ar Cadwyn Ogwen tan nos Sul, gyda’r parseli bach yn cael eu danfon Dydd Iau. I’r rai fydda â diddordeb ymuno a’r drafodaeth, ond bydda lawer gwell ganddyn nhw wybod be ydy’r llyfr cyn ei brynu, bydd y nofel yn cael ei datgelu ar ôl i Cadwyn orffen danfon.

Efallai nad ydy’r clwb darllen ar ei wedd bresennol cweit run peth ac ymgynnull yng nghartrefi eraill a mwynhau trafod dros botel o win. Ond fe ddaeth rhyw undod o’r profiad o gyd-ddarllen Gavi – ac roedd rhannu’r drafodaeth a chi oll wir yn bleser – diolch i chi gyd!

Os hoffech wybod mwy am y Clwb Darllen, gellir ymuno a grŵp Clwb Darllen Dyffryn Ogwen ar Gweplyfr, neu gysylltu â Siop Ogwen.