Mae cwmni cacennau o Fethesda wedi cyrraedd rhestr fer ar gyfer gwobrau bwyd cenedlaethol y ‘Good Food Awards’.
Mae cwmni cacennau Lois yn boblogaidd iawn ymhlith trigolion Dyffryn Ogwen ers rhai blynyddoedd bellach. Yn fwy diweddar, maent wedi dod yn rhywbeth mae nifer o deuluoedd yn edrych ymlaen atyn nhw fel rhan o drefniadau anfon neges, Cadwyn Ogwen ers dyfodiad y Cofid!
Meddai Lois: “Mae’n newyddion cyffrous. Mi nes i dderbyn yr ebost gan y ‘Good Food Awards’ yn cadarnhau fy mod ar y rhestr fer ar gyfer Gwobrau cypcêcs mwyaf blasus.
“Ond, mae’r canlyniad yn dibynnu ar sawl pleidlais yr wyf yn ei dderbyn. Felly, plis plis plis dilynwch y linc i bledleisio ar gyfer Lois’ Cupcakes.
“Diolch yn fawr iawn am eich cefnogaeth parhaol.”
Mae cwmni Lois yn coginio cypcêcs amrywiol o wahanol flasau; cacennau penblwydd ac ati ynghyd â darparu ar gyfer priodasau, partisans penblwydd ac wrthi yn pobi a gwerthu ers chwe blynedd bellach.
Felly, beth am fynd ati i daro pleidlais dros gwmni poblogaidd o Ddyffryn Ogwen? Gallwch bleidleisio dros gwmni “Lois’ Cupcakes” yn y categori cypcêcs mwyaf blasus!
Gallwch bleidleisio dros y cacennau ar wefan y Good Food Awards yma: https://www.goodfoodaward.com/vote/?fbclid=IwAR0mDiv8mIAE1zqQgcxHOjhGFb3H8GYibB1oWPyMWS1J2Wyqi5PVZ9Q83n0
Pob lwc Lois!