Diolch i @zoewms am luniau o Dyddyn Du, Gerlan heddiw. @PartneriaethOg @ogwen360 #ffermio #farming
Tra bo dynoliaeth fe fydd amaethu
A chyw hen linach yn eu olynu,
A thra bo gaeaf, bydd cynaeafu
A byw greadur tra bo gwerydu.#dicjones @trydarbarddas @BarddPlant pic.twitter.com/DzBdguuQAd— Ysgol Llanllechid (@YsgLlanllechid) March 10, 2023
Unrhyw un yn gwybod am rhywle fedra i gael menthyg neu rentu car bach awtomatig am tua 2/3 wythnos plîs, tan mae’r goes ma allan o’r brace. @ogwen360 @CRBethesda @gogpod Diolch pic.twitter.com/UblHq6SD5d
— Huw Davies (@Huwdavies08) March 10, 2023
Gwefan newydd yn cofnodi pwysigrwydd corlannau’r ardal – @ogwen360 https://t.co/FXYY8LnNss
— Sian Beidas 🏴🌻 (@SB234327) March 10, 2023
Mae Llyfrgell Bethesda ar gau eto heddiw (Dydd Gwener, 10 Mawrth) oherwydd yr eira!
Bethesda Library is closed again today (Friday, 19 March) due to the snow! pic.twitter.com/ypJszz61l5
— Llyfrgelloedd Gwynedd Libraries (@LlyfrGwyneddLib) March 10, 2023
Dim ysgol i nifer oherwydd y tywydd
Ysgolion a'r llyfrgell ar gau wedi eira dros-nos
Darllen rhagorNid dim ond ym Mharc Moch yr oedd mwynglawdd copr yn Nyffryn Ogwen. Darllenwch am fwyngloddiau Cwm Ceunant a Dolawen yma https://t.co/2a6xIFJXBh
— Hanes Dyffryn Ogwen (@HanesDyffOgwen) March 8, 2023
Diolch i @IeuGwyneddYouth am drefnu gweithdy “Big Ideas” i flwyddyn 9 ddoe. Cafwyd prynhawn difyr a buddiol iawn a chfle i gyfarfod â Myfanwy’r dylluan! pic.twitter.com/nq6DtJ4gkq
— Ysgol Dyffryn Ogwen (@DyffrynOgwen) March 9, 2023
Mae bl7 wedi cael profiadau “cŵl” efo’r @WelshWhisperer yr wythnos hon- eu geiriau nhw!Cafodd pob disgybl bl7 gyfle i recordio podlediad Cymraeg er mwyn cyfrannu i raglen ‘Radio Dyffryn Ogwen’. Mae’r podlediadau werth eu clywed! Pigion ar y ffordd🎧📻@Siarteriaith @YdoCymraeg pic.twitter.com/sfsu48c5n6
— Ysgol Dyffryn Ogwen (@DyffrynOgwen) March 9, 2023
Diolch yn fawr iawn i @YsgolAc am ein croesawu fel rhan o’r prosiect ‘Y Gymraeg yn y Gymuned’. Roedd y disgyblion yn llawn brwdfrydedd yn eu gwersi llythrennedd gyda Mrs Owen @YdoCymraeg Gwych oedd gweld disgyblion bl3 yn defnyddio’u geirfa newydd wrth goginio 🍕yn Nyffryn Ogs! pic.twitter.com/YtpVQz2K8k
— Ysgol Dyffryn Ogwen (@DyffrynOgwen) March 9, 2023
Dyma beth ydi profiad! Da iawn ti! 👏👏 @1GarethWynJones pic.twitter.com/UNZrXgOIzV
— Ysgol Llanllechid (@YsgLlanllechid) March 9, 2023