Dim ysgol i nifer oherwydd y tywydd

Ysgolion a’r llyfrgell ar gau wedi eira dros-nos

Carwyn
gan Carwyn

Wedi noson o eira trwm, mae nifer o ysgolion yr ardal ar gau eto heddiw.

Mae rhybudd tywydd yn ei le tan 9am ac eira yn parhau i ddisgyn felly mae nifer o rieni eisoes wedi cael cadarnhad na fydd ysgol heddiw.

Hyd yma mae cadarnhad fod Ysgol Dyffryn Ogwen, Ysgol Abercaseg a Phenybryn, Ysgol Rhiwlas, Ysgol Bodfeurig, Ysgol Tregarth ac Ysgol Llanllechid ynghau heddiw.

Mae negs hefyd ar wefan y Cyngor yn nodi fod Llyfrgell Bethesda ar gau heddiw oherwydd yr eira.

Mae cyngor cyffredinol hefyd i bobl gymryd gofal os oes rhaid gadael y tŷ.

Mewn neges ar Facebook, mae Traffig Cymru yn cynghori modurwyr i fod yn bwyllog.

“Mae’n debygol y bydd risg uwch o sgidio a llai o welededd. Ystyriwch, oes angen teithio?

“Os felly cymerwch y camau hyn:
🗺 edrychwch ar y rhagolygon a’r wybodaeth traffig ddiweddaraf cyn cychwyn
⌚ caniatewch amser ychwanegol i deithio a ddefnyddiwch llwybrau sy’n llai tebygol o gael eu heffeithio gan eira neu rew
🚗 arafwch a cadwch eich pellter”

Pwyll piau hi heddiw felly. Ac i gadw golwg am wasanaethau Cyngor Gwynedd sydd wedi eu heffeithio ewch draw i’r wefan.