Rhiwlas, Pentir a Llandygai ymhlith y pentrefi fydd yn elwa o gynlluniau cysylltiad band llydan newydd

“Eleni mae pob un ohonom wedi gweld pa mor bwysig yw cael cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy”

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae Rhiwlas, Pentir a Llandygai ymhlith 45 o drefi a phentrefi gwledig ar draws Cymru fydd yn elwa o gynlluniau cysylltiad band llydan mwyaf erioed cwmni Openreach.

Mae’r cwmni wedi amlinellu cynlluniau i sicrhau bod cysylltiad band llydan ar gael mewn ardaloedd yng Nghymru sydd fel arfer yn anodd eu cyrraedd.

Fe fydd yn golygu bod cannoedd o filoedd o gartrefi’n gallu cael y cysylltiad cyflymaf i’r we yn Ewrop.

Ymhlith y trefi eraill fydd yn elwa mae Llanelli, Y Fenni, Aberystwyth a Chaernarfon.

Bydd y gwaith yn cael ei wneud heb gymorth arian trethdalwyr gyda’r nod y gall band llydan gyfrannu at adferiad yr economi ôl-Covid 19.

Mae disgwyl i’r gwaith ddechrau o fewn 18 mis, ond gallai ymestyn i 2024 mewn rhai llefydd.

Daw’r cyhoeddiad ar ôl i Lywodraeth Cymru ddweud yn ddiweddar y byddan nhw’n ymestyn eu cytundeb ag Openreach i gyrraedd cymunedau lle mae gan lai na 90% o gartrefi gysylltiad band llydan.

Mae hefyd yn rhan o gynllun i gyrraedd 3.2 miliwn yn rhagor o leoliadau trwy wledydd Prydain.

Map o’r ardal ger Bangor fydd yn elwa o gynlluniau newydd cwmni Openreach

Manteision

Yn ôl Openreach, mae manteision amlwg i’r cynllun ac mae’r rheiny wedi’u cynnwys mewn adroddiad gan y Ganolfan Ymchwil Economeg a Busnes a gafodd ei gomisiynu gan Openreach y llynedd.

Daeth yr adroddiad i’r casgliad y byddai sicrhau cyswllt band llydan i bawb yng Nghymru erbyn 2025 yn rhoi hwb o bron i £2bn i’r economi.

Ac mae’n darogan hefyd y gallai hyd at 25,000 ddychwelyd i’r farchnad waith yn sgil gwella cyswllt i fand llydan, gan helpu busnesau bach ac entrepreneuriaid, a galluogi miloedd yn rhagor i weithio gartref.

‘Adferiad economaidd’

“Eleni mae pob un ohonom wedi gweld pa mor bwysig yw cael cysylltiad band eang cyflym a dibynadwy,” meddai Clive Selley, Prif Weithredwr Openreach.

“Mae Openreach yn argyhoeddedig y gallai technoleg ffeibr cyflawn symbylu adferiad economaidd y Deyrnas Unedig.

“Rydym yn adeiladu rhwydwaith ffeibr cyflawn dibynadwy fydd yn hybu cynhyrchiant, lleihau teithiau cymudo ac allyriadau carbon, ac yn cysylltu ein teuluoedd, gwasanaethau cyhoeddus a busnesau am ddegawdau i ddod.”

‘Mwy i’w wneud’

Mae Lee Water, Dirprwy Weinidog yr Economi a Thrafnidiaeth wedi croesawu’r cyhoeddiad gan Openreach i gyrraedd y lleoliadau anghysbell yng Nghymru.

“Tra bod dros 95% o leoliadau yng Nghymru bellach yn gallu cael mynediad at fand llydan cyflym iawn, rydym yn gwybod fod mwy i’w wneud i gyrraedd y lleoliadau olaf,” meddai.

“Yn ddiweddar, rydym wedi cyhoeddi estyniad i’n cynllun arfaethedig gydag Outreach, gan ganolbwyntio ar ardaloedd awdurdodau lleol â llai na 90% o fynediad.

“Mae hyn ochr yn ochr â’n cynlluniau eraill i ariannu atebion cysylltedd i’r sawl nad ydyn nhw’n rhan o unrhyw gynlluniau arfaethedig.

“Dw i’n croesawu’r cyhoeddiad hwn gan Openreach a fydd yn cynyddu nifer y lleoliadau fydd yn gallu cael mynediad at ffeibr llawn, sydd â’r potensial i ddarparu rhai o’r cyflymderau mwyaf sydd ar gael.”

Gall pobol weld pa gynlluniau yn eu hardal drwy roi eu cod post yn y gwiriwr ffeibr ar-lein.

Dyma’r 45 lleoliad newydd yng Nghymru:

Sir Gâr

  • Llanelli, Swiss Valley, Dafen

Rhondda Cynon Taf

  • Abercynon
  • Glynrhedynog, Pendyrus, Aberllechau
  • Aberpennar, Abercwmboi
  • Llanilltud Faerdref, Beddau, Pentre’r Eglwys, Tonteg
  • Llantrisant, Pontyclun, Llanharan, Meisgyn

Caerffili

  • Caerffili, Bedwas, Llanbradach
  • Cross Keys
  • Rhymni

Sir Ddinbych

  • Rhuddlan
  • Rhyl, Bae Cinmel

Sir Fynwy

  • Y Fenni

Blaenau Gwent

  • Brynmawr
  • Cwm

Ceredigion

  • Aberystwyth 

Gwynedd

  • Bangor, Penrhosgarnedd
  • Caernarfon, Caeathro, Llanrug
  • Pwllheli

Conwy

  • Conwy, Deganwy, Tywyn
  • Bae Colwyn
  • Llandudno

Sir y Fflint

  • Cei Connah
  • Bwcle

Wrecsam

  • Rhosllannerchrugog 

Powys

  • Y Trallwng