“Dy Werth” – sgwrs a dysgu yng nghwmni artist lleol

Sgwrs a Gweithdy Creadigol efo Rebecca F Hardy yn y Gofod Gwneud Bethesda

Robyn Morgan Meredydd
gan Robyn Morgan Meredydd

Mae Partneriaeth Ogwen yn gyffrous iawn i fod yn gweithio efo artist lleol Rebecca F Hardy fel rhan o’i gwaith “Dy Werth.”

Mae Rebecca yn adnabyddus am ei harbrofi gyda lliwiau, patrymau a siapiau beiddgar. Yr hyn efallai nad yw llawer o bobl yn ei wybod yw ei bod hi’n defnyddio Gofodau Gwneud ar draws Gwynedd gyflawni’r canlyniadau syfrdanol hyn.

Bydd Rebecca yn rhoi sgwrs yn y Gofod Gwneud, Canolfan Cefnfaes, Bethesda nos Fawrth, Medi 24ain o 6.30 tan 8.30 i egluro sut mae defnyddio peiriannau Gofod Gwneud fel torwyr laser a finyl nid yn unig wedi dylanwadu ar ei chelf weledol, ond hefyd yn caniatáu iddi wneud cynhyrchion o’i gwaith celf.

Yn dilyn y sgwrs, bydd Rebecca yn arwain gweithdy creadigol gan ddefnyddio peiriannau Gofod Gwneud i greu gemwaith wedi’i ailgylchu.

Mae Partneriaeth Ogwen ar hyn o bryd yn ail-lansio ein Gofod Gwneud yng Nghanolfan Cefnfaes, ac un o’r meysydd yr ydym am ei ddatblygu yw gwella mynediad a chefnogaeth i artistiaid a phobl greadigol sydd â diddordeb mewn defnyddio’r peiriannau yn eu hymarfer.

Gobeithio y gall y sesiwn hon gyda Rebecca sbarduno rhai syniadau a diddordeb, ac yna gallwn ddilyn efo sesiynau hyfforddi a sesiynau creadigol agored a gefnogir gan ein technegwyr.

Mae digwyddiad yma yn rhad ac am ddim, ond nifer cyfyngedig o leoedd sydd ar gael, felly os oes modd i bobl gadw lle drwy gysylltu â gofod@ogwen.org

Mae’r digwyddiad wedi ei ariannu gan Lywodraeth y DU.