Nid fi yw hwn
Er mwyn gadael sylw, mae angen mewngofnodi neu ymuno â’r safle.
Mae criw Carnifal Bethesda wedi cyhoeddi pryd y bydd Siôn Corn yn teithio trwy cymunedau’r ardal.
Mae’r daith hwyliog yn ddigwyddiad blynyddol mae pawb yn ei fwynhau.
“Wedi gael gafael ar Siôn Corn o’r diwedd, ac mi fydd o’n mynd o amgylch Dyffryn Ogwen rhwng 4.30 a 7.30 dydd Sadwrn, 14eg Rhagfyr! Cadwch lygaid allan amdano,” meddai neges ar dudalen Facebook y Carnifal.
Mae amcan amseroedd y daith i’w weld ar y dudalen yma a chofiwch gallwch ddilyn y daith ar y dudalen ddydd Sadwrn hefyd.