gan
Robyn Morgan Meredydd
Wyddoch chi fod modd defnyddio’r Cydweithfa am ddim trwy gydol mis Rhagfyr?
Gallwch gadw’n gynnes a chynhyrchiol trwy dreialu’r Gydweithfa yng Nghefnfaes. Bydd yn gyfle i ddianc o’r oerfel ac i weithle clyd, croesawgar sydd wedi’i gynllunio i’ch cadw yn gynhyrchiol trwy’r mis.
Cynheswch eich diwrnod gwaith gyda:
- Mannau cyfforddus, cynnes sy’n berffaith ar gyfer y gaeaf
- Wi-Fi cyflym a gorsafoedd gwaith modern
- Coffi a the am ddim
Gellir archebu desgiau am ddim yn ystod mis Rhagfyr am ddiwrnod cyfan neu hanner diwrnod yma, lle byddwch hefyd yn dod o hyd i’n llawlyfr gyda rhagor o fanylion am fwynderau a pholisïau.