Taith miwsig ysgolion yn cyrraedd Dyffryn Ogwen

Tara Bandito a Tesni Hughes yn diddanu disgyblion Ysgol Dyffryn Ogwen mewn gig byw

gan Eleri Mitchelmore

Mewn digwyddiad arbennig yn nodi gig cyntaf byw yr ysgol ers cyn y pandemig, croesawodd Ysgol Dyffryn Ogwen y disgyblion a staff i berfformiad ysbrydoledig gan artistiaid Cymreig Tesni Hughes a Tara Bandito.

Wedi ei threfnu gan Menter Iaith Gwynedd a chefnogaeth Bro360, i lawer o ddisgyblion hwn oedd eu profiad cyntaf o gig byw, gan gynnig gwerthfawrogiad newydd iddynt o gerddoriaeth a diwylliant Cymreig.

Roedd y neuadd yn llawn cyffro wrth i gymysgedd o ganeuon traddodiadol fel ‘Yma o Hyd’ a ‘Tŷ ar y Mynydd’ gael eu cyd-ganu gyda Tesni, a  pherfformiadau egniol Tara o ganeuon adnabyddus fel ‘Rhyl’ a ‘Drama Queen’ yn ychwanegu at yr amrywiaeth a’r profiad.

Dwedodd Ffion (bl.7) “Dwi wedi mwynhau yn arw, dwi wedi dawnsio trwy’r prynhawn a nawr dwi am fynd adra i lawrlwytho a gwrando ar y caneuon eto!”

Gyda’r gloch diwedd prynhawn, gadawodd y gig argraff gadarnhaol ar y disgyblion, gan grufhau angerdd at gerddoriaeth a diwylliant Cymreig.

Gyda gobeithion am fwy o ddigwyddiadau yn y dyfodol, mae Ysgol Dyffryn Ogwen yn barod i ddarganfod, dathlu a meithrin rhagor o gariad at gerddoriaeth Gymreig ac i ddathlu ei diwylliant gyfoethog!