Rhedeg 70.8Km dros heddwch

Mary Gillie sydd wedi bod yn rhedeg gan godi dros £2,000 er budd Gaza

Carwyn
gan Carwyn

Mae Mary Gillie wedi cwblhau her o redeg 70.8Km ar ddydd Sadwrn, 9 Mawrth gan godi arian er budd elusen sy’n cefnogi pobl sy’n dioddef yn Gaza.

Fel rhywun sy’n rhedeg a chrwydro tirlun yr ardal, penderfynodd Mary y byddai hi’n mynd ati i redeg gan godi arian ar gyfer elusen UNRWA. Hyd yma mae wedi hel dros £2,000.

Pam 70.8Km?

“Mae rhai pobl wedi gofyn ‘Pam dw i’n rhedeg 70.8km?’ Achos mae’r wal yn y ‘West bank’ yn 708km. Ac wrth gwrs i godi arian – does ’na neb arall yn gallu gwneud gwaith UNRWA – mae’n llinell fywyd,” meddai Mary.

Roedd Mary yn ddiolchgar i bawb sydd wedi cyfrannu at UNRWA, a phawb a fu’n ei chynorthwyo yn ystod ei rhediad o 70.8Km, nifer yn sicrhau fod ganddi bopeth yr oedd ei hangen yn ystof yr her.

“Dw i mor ddiolchgar am sut roedd pobl yn cefnogi fi. Mae’r dad ffrind i mi’n mynd i Balestina wythnos nesaf. Wrth gwrs mae arian yn bwysig iawn ond hefyd bydd yn help pobl yno i wybod mae ’na bobl yn bentre’ yng ngogledd Cymru sydd pobl sy’n malio amdanyn nhw.”

Cychwyn cynnar

Roedd hi’n fore cynnar i Mary ar ddydd Sadwrn wrth iddi baratoi am yr holl redeg.

“Roeddwn i’n teimlo’n nerfus iawn y diwrnod cynt ond erbyn 6.40 ar y diwrnod roeddwn i’n barod i fynd,” meddai.

“Clois y drws, gan wybod na fyddai fy nhŷ yn cael ei feddiannu, ei fomio na’i daro tra oeddwn i ffwrdd.”

Er cefnogaeth cyfeillion, roedd y tywydd ar ddydd Sadwrn yn golygu ei bod yn ddiwrnod heriol iawn. Ar Garnedd Llywelyn, roedd y gwynt yn udo ac roedd y niwl yn ei gwneud yn anodd i Mary gadw at y llwybrau gorau.

“Dros y Glyderau des i lawr Llwybr y Mwynwyr a mynd heibio rhaeadr dwi’n arbennig o hoff ohono. Roeddwn yn ddiolchgar am ddŵr.

“Mae’n lân yma, mae gennym ni ddigon ohono. Yn Gaza nid oes bron dim. Yn y Lan Orllewinol nid oes gan Balesteiniaid ddigon i gwrdd â’r swm a argymhellir gan y Cenhedloedd Unedig, dim ond 25% sydd gan rai o’r bugeiliaid.”

Yr Wyddfa

“Daeth y polion allan i helpu i achub fy nghluniau ar y ffordd i lawr ac i fyny i Ben y pas. Roedd Llwybr y Mwynwyr i’r Wyddfa o leiaf yn gysgodol i ddechrau.

“Wrth i mi agosau at y brig, roedd haenen o eira caled ar bob cam. Roeddwn yn poeni am daro mewn i unrhyw dwristiaid neu y bysan nhw’n taro’n fy erbyn i. Roedd yn rhyddhad cyrraedd y brig ond ni ddaeth yr hwyl i ben yno.

“Nid oes cymaint o gerdded ar yr ochr arall ac roedd ceisio dod o hyd i’r llwybr drwy’r creigiau wedi’u gorchuddio ag eira yn anodd, nid dyma oedd yr amser i beidio dilyn y trywydd!

“Fe gymerodd 10 munud i mi ddod o hyd i’r llwybr ond wedi pwyllo fe wnes i ganfod yr arwyddbyst.”

Yna cafwyd cefnogaeth gan fwy o ffrindiau yng nghyffiniau Rhyd Ddu ac fe roddodd hwb i Mary.

“Roeddwn yn falch o wybod nawr na fyddai’n rhaid i mi fynd yn uwch na 700 metr eto. Roedd hi’n dal yn wyntog ar y topiau ond roedd gallu gweld ble roeddwn i’n mynd yn gwneud bywyd yn haws. Daeth mwy o gaws bendigedig Carrie Rimes â fi i fyny’r ddringfa nesaf.”

“Roeddwn i’n mwynhau’r golygfeydd nawr ac yn mwynhau’r rhyddid o allu mynd allan lle rydw i eisiau. Dros y Mynydd Mawr ac edrychais yn ôl ar y bryniau mawr yr oeddwn wedi bod drostynt. Lawr i Waunfawr ac yna gwnes i fy ffordd i fyny drwy’r caeau ac i fyny i Gefn Du.

“Roeddwn i’n mynd yn flinedig ac yn anystwyth ond roeddwn i’n gallu gweld draw i’r ddringfa olaf ac yn gwybod fod cartref yr ochr arall iddo.”

Partner rhedeg

Hoe fach a mwy o fwyd a chefnogaeth ffrindiau yn Llanberis. Ond roedd yr holl ymdrech yn dechrau dweud ar Mary ac roedd hi’n ei chael yn anodd yfed a bwyta fawr erbyn hyn.

“Roeddwn i wedi datblygu peswch a oedd yn gwaethygu ond roeddwn i’n gwybod os oedd yn unrhyw beth mwy na gwddf llidiog y gallwn gyrraedd meddyg yn hawdd yn wahanol i bobl Gaza.

“Ychydig cyn Deiniolen, fe ddaeth Catrin gyda Roy y ci – am lawenydd, roeddwn mor falch o’u gweld!

“Roy fy mhartner rhedeg gwych sydd wedi bod ar gymaint o anturiaethau gyda mi. Hwb gwych arall eto. Roedd yn ffres a phan gefais ef ar dennyn fe’m cadwodd i fynd!

“Wrth fynd fyny i Lanllechid roedd fy nghorff yn dweud wrtha i ei bod hi’n amser stopio gan fy mod i’n pesychu ac yn taflu i fyny.

“Ar y ffordd adref stopiodd car a gofyn os mai fi oedd Mary Gillie a fy llongyfarch am yr her!

“I fyny’r allt i fy nhŷ, cwympais mewn tomen wrth fy nrws ffrynt a chael cwtsh mawr gyda Roy.

“Rwyf wedi cael fy syfrdanu gan y gefnogaeth a gefais. Yn ogystal â’r arian mae’n wirioneddol bwysig i’r Palestiniaid wybod bod pobl yn malio. Diolch yn fawr iawn!”

Os nad ydych wedi cyfrannu ac yn awyddus i gefnogi’r ymdrech gan Mary, gallwch wneud hynny yma tan ddydd Sadwrn, neu gallwch gyfrannu at UNRWA ar y wefan wedi hynny.