Welsoch chi foi chwyslyd yn rhedeg nôl ag ymlaen rhwng Gerlan a Thregarth yn ddiweddar?
Beryg mai Huw ydi o – yn rhoi’r milltiroedd fewn i godi arian ar gyfer Cymdeithas Motor Niwron.
Wedi’i ysbrydoli gan y cyn-chwaraewr rygbi Kevin Sinfield sydd wedi codi miliynau at yr achos mae Huw wrthi wythnos yma, ond ar raddfa tipyn yn llai!
Dywedodd Huw: “Wedi gweld ymdrechion pobl fel Kevin o ni isho gwneud rwbath ar ôl cael fy ysbrydoli ganddo.
“Fe redodd o saith ‘Ultra-Marathon’ mewn saith diwrnod ond gan fo hynny’n rhy bell i fy hen goesau fi dyma fynd am rwbath mwy cymedrol – rhedeg adra, o’r tŷ ‘cw lawr y lon i’r hen gartra’n Nhregarth.
“Wedi dechrau ddydd Sadwrn, dwi bron hanner ffordd drwyddi erbyn hyn (nos Lun) a fyddai’n gorffen fore Gwener. Y rheswm dwi’n rhedeg ydi codi pres ar gyfer trio trechu’r sglyfath motor niwron.
“Fyddai’n rhedeg o leiaf 7Km pob dydd, weithiau nes at 10km – dibynnu faint o nerth fydd genai! Mae pobl wedi bod yn ffeind iawn, a dwi’n gwerthfawrogi’n fawr pob cyfraniad. Canwch eich corn neu codwch law os welwch chi fi o gwmpas y lle!”
Gellir cyfrannu at ymgyrch Huw yma.